Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd allan o'r wlad am byth, rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eich bod yn allforio'r cerbyd. Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd neu gerbyd sydd wedi'i logi allan o'r wlad dros dro, rhaid i chi fynd â'r dogfennau angenrheidiol gyda chi.
Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd allan o Wledydd Prydain am byth, rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA. Os oes gennych chi ddogfen gofrestru (V5) fe allwch chi wneud hyn drwy lenwi adran C i nodi'r dyddiad yr ydych yn bwriadu ei allforio. Yna dylech ddychwelyd y V5 i'r DVLA neu i swyddfa DVLA leol. Yn ei lle, fe gewch dystysgrif allforio am byth (V561) i gadarnhau bod eich cerbyd wedi'i gofrestru.
Os oes gennych chi dystysgrif gofrestru (V5C) yna mae'n rhaid i chi nodi eich bod yn allforio (yn yr adran borffor, V5C/4). Rhaid i chi fynd â'ch tystysgrif gofrestru gyda chi oherwydd mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ei chyflwyno i'r awdurdod perthnasol pan gaiff eich cerbyd ei gofrestru yn y wlad dramor.
Mae rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn, gan gynnwys cyngor am fynd â cherbyd i Ogledd Iwerddon, ar gael yn y daflen V526 'Mynd â'ch cerbyd allan o'r wlad'.
Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd allan o'r wlad am lai na 12 mis, rhaid i chi sicrhau eich bod yn mynd â'ch dogfen gofrestru (V5) neu'ch tystysgrif gofrestru (V5C) gyda chi. Os nad oes gennych chi un, dylech wneud cais i swyddfa DVLA leol ar ffurflen V62, sydd i'w chael o ganghennau Swyddfa'r Post®, swyddfeydd DVLA lleol neu i'w llwytho o'r ddolen i ffurflenni cerbydau isod. Gall y dystysgrif gofrestru gymryd hyd at 14 diwrnod i gyrraedd. Os byddwch chi'n teithio yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif gofrestru dros dro. Dylech wneud cais mewn da bryd cyn teithio gan ei bod yn bosib y bydd yn rhaid aros hyd at 14 diwrnod am dystysgrif os nad ydych chi eisoes wedi eich cofnodi fel ceidwad y cerbyd. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.
Dylech sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau rhyngwladol a chenedlaethol o ran trwyddedu a threthu. Ceir rhagor o wybodaeth yn y daflen V526 'Mynd â'ch cerbyd allan o'r wlad.'
Os oes cerbyd sydd wedi'i lesio, wedi'i logi neu wedi'i rentu yn eich meddiant, fel arfer, cedwir tystysgrif cofrestru'r cerbyd yn ddiogel gan y cwmni sy'n ei ddarparu. Pan fyddwch chi'n teithio dramor, mae'n bwysig bod gyrwyr yn gallu darparu'r dogfennau i ddangos bod hawl ganddynt i fod â'r cerbyd yn eu meddiant. Mae'r dystysgrif cerbyd-ar-log (VE 103) wedi'i ddatblygu i fodloni'r gofyniad hwn. Gellir cael y dystysgrif gan y cyrff canlynol (mae ffi weinyddol fechan i'w thalu):
Efallai y ceir mwy o fanylion am sut i gael VE 103 a'r manteision o wneud hynny ar wefannau'r awdurdodau uchod.