Pan gaiff cerbyd ei fewnforio ar gyfer ei ddefnyddio ym Mhrydain Fawr, mae'n rhaid ei gofrestru a'i drethu gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan na ellir defnyddio'r cerbyd na'i gadw ar ffyrdd cyhoeddus nes caiff ei gofrestru a'i drethu.
Gellir gyrru cerbyd 'newydd sbon' i Brydain Fawr a'i gofrestru fel cerbyd 'newydd' cyn belled â bod:
Cynghorir unrhyw un sy'n mewnforio cerbydau i'w cludo yn hytrach na'u gyrru o'r porthladd i'w cyrchfan gyntaf.
Mae'n rhaid i gerbydau newydd gael tystysgrif cydymffurfio fel tystiolaeth bod darparwr neu adeiladwr y cerbyd wedi'u cymeradwyo. Bydd angen i gerbydau gyriant llaw chwith o'r Gymuned Ewropeaidd fod wedi derbyn tystysgrif, a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Tystysgrifo Cerbydau (VCA), dan y Cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd y dystysgrif hon yn dangos bod y newidiadau a oedd eu hangen ar y cerbyd i'w wneud yn addas ar gyfer ffyrdd Prydain wedi'u gwneud.
Os nad yw'r cerbyd wedi cael cymeradwyaeth math Ewropeaidd (pan fwriedir ei werthu mewn gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd), rhaid iddo basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA). At ddibenion y prawf, gallwch yrru'r crebyd i'r apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw ac oddi yno cyn cofrestru'r cerbyd.
Gallwch archebu 'pecyn mewnforio' drwy wasanaeth archebu ffurflenni DVLA. Mae'r pecyn hwn yn darparu'r holl wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol y mae eu hangen arnoch er mwyn cofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio.
Fel rhan o'r broses gofrestru, mae'n rhaid i DVLA sicrhau bod cerbyd ail-law sydd wedi'i fewnforio ac yn llai na 10 mlwydd oed yn bodloni safonau cymeradwyaeth math Ewropeaidd, a deddfwriaethau gwneuthuriad a defnydd a goleuo cerbydau'r ffordd y DU.
Bydd angen i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd gyntaf mewn Aelod Wlad Ewropeaidd arall gael tystysgrif a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Tystysgrifo Cerbydau (VCA) dan y cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd cerbydau nwyddau mawr angen cymeradwyaeth math llawn y DU cyn cael eu cofrestru.
Mae'n rhaid i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd gyntaf mewn gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd basio'r prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA).
Bydd treth cerbyd yn daladwy yn unol â dyddiad cofrestru'r cerbyd am y tro cyntaf yn y DU. Hyd yn oed os nad yw'r cerbyd wedi'i gofrestru dramor yn y gorffennol, bydd y dyddiad y caiff ei gofrestru am y tro cyntaf yn y DU yn pennu swm y dreth cerbyd sy'n daladwy. Hefyd, bydd DVLA yn dyrannu rhif cofrestru cerbyd priodol ar gyfer cofrestru'r cerbyd dramor am y tro cyntaf.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich cerbyd yn eich swyddfa DVLA leol agosaf. Mae'r cais yn cymryd dau i dri diwrnod gwaith. Nid oes gwasanaeth 'dros y cownter'.
Bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol i'ch swyddfa DVLA leol (ni dderbynnir llungopïau):
Ni fydd modd cofrestru na threthu'r cerbyd oni bai eich bod wedi darparu'r dogfennau angenrheidiol. Efallai mewn rhai achosion y bydd eich swyddfa DVLA leol yn dymuno gweld y cerbyd er mwyn gofalu bod y manylion yn gywir.
Rhaid i gerbydau a gedwir neu a ddefnyddir ar y ffordd fawr yn y DU gydymffurfio â Rheoliadau Cerbydau (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y'i diwygiwyd) bob amser.
Nid oes copïau o'r rheoliadau ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth na gan y DVLA. Gellir eu cael o unrhyw lyfrgell neu gallwch eu harchebu gan Y Llyfrfa Ltd (TSO). Gallwch gyflwyno archeb i TSO:
Gellir cael gwybodaeth am reoliadau 1986 drwy gysylltu â:
The Department of Transport
Transport, Technology and Standards Zone 2/01
Great Minster House
76 Marsham Street
LONDON
SW1P 4DR
E-bost: tts.enquiries@dft.gsi.gov.uk