Gellir symud rhif cofrestru yn uniongyrchol o un cerbyd i gerbyd arall. Dim ond ceidwad cofrestredig cerbyd sydd â'r hawl i wneud cais am drosglwyddo ei rif cofrestru. Caiff y cais ei brosesu yn un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen V317 'trosglwyddo rhif cofrestru cerbyd'. Mae tudalen i'w rhwygo oddi ar y ffurflen ac arni ganllawiau ar ffurf cwestiwn ac ateb. Dylech ddarllen y rhain yn hynod ofalus a’u cadw’n ddiogel er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol. Dylid anfon y cais gorffenedig a'r dogfennau perthnasol i'ch swyddfa DVLA leol.
Byddwch angen:
Noder: Os nad oes gennych V5C, V5C/2 ar gyfer y naill gerbyd neu'r llall neu os yw'r V5C/2 wedi cael ei stampio gan y swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif cofrestru drwy gwblhau ffurflen V62 'gwneud cais am dystysgrif cofrestru cerbyd' a thalu ffi o £25.00.
Os stampiwyd y V5C/2 ar ôl trosglwyddiad neu gais i gadw rhif blaenorol, mae'n bosib na fyddwch yn gallu gwneud cais hyd nes y bydd V5C newydd wedi ei chyflwyno i chi.
os oes angen treth cerbyd arnoch chi ar gyfer y naill gerbyd neu’r llall ar yr un pryd, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen V10 'cais am drwydded cerbyd' neu'r ffurflen atgoffa V11, a chyflwyno’r dystysgrif yswiriant berthnasol neu nodyn gwarchodaeth dilys, a’r tâl priodol am dreth cerbyd. Gofalwch fod gennych chi fanylion disg dreth eich cerbyd (dyddiad dod i ben a'i rif cyfresol) a rhif adnabod eich cerbyd (VIN) neu rif y ffrâm yn barod os ydych chi'n bwriadu ymweld â'ch swyddfa DVLA leol.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd ceisiadau i drosglwyddo rhifau arbennig gyda ffurflenni V55/4 a V55/5 yn amodol ar brawf adnabod.
Mae ffurflenni V317, V10 a V62 ar gael i'w llwytho oddi ar y we, neu gallwch ofyn amdanynt yn eich swyddfa DVLA leol agosaf.
Mae'r daflen INF46 'Rhifau Cofrestru a Chi' hefyd yn rhoi cyngor ychwanegol am y cynllun ac ar gael i'w llwytho oddi ar y we.
Efallai bydd y swyddfa DVLA leol eisiau archwilio'r cerbyd(au) sy'n rhoi a/neu'n derbyn y rhif. Os yw popeth mewn trefn, dyrennir rhif cofrestru newydd sy’n cyfeirio at oedran y cerbyd* i’r cerbyd sy'n rhoi (y cerbyd sy’n ildio’r rhif cofrestru arbennig), bydd y ddisg/disgiau treth yn cael eu newid ac addesir y dystysgrif/tystysgrifau MOT (lle bo hynny’n briodol) i ddangos y rhif cofrestru newydd. Byddwch wedyn yn cael cyfarwyddiadau i newid y platiau rhif ar y cerbydau a dychwelyd unrhyw hen ddisg(iau) treth i’w canslo.
*Os cofrestrwyd y cerbyd sy'n rhoi'r rhif cyn 1963, dyrennir rhif newydd nad yw'n cynnwys dangosydd oedran felly mae'n bosib na fydd yn adlewyrchu'r union ddyddiad y cafodd y cerbyd ei gofrestru gyntaf.
Bydd y papurau'n cael eu hanfon i'r DVLA, Abertawe er mwyn diwygio’r cofnodion. Fel arfer, bydd Tystysgrifau Cofrestru newydd yn dilyn o fewn pedair wythnos i dderbyn eich llythyr cadarnhau gan y swyddfa leol. Fodd bynnag, os defnyddiwyd V62 i gefnogi'ch cais, gall y broses gymryd hyd at wyth wythnos.