Sut mae creu plât rhif
Er mwyn creu plât rhif ar gyfer eich cerbyd, bydd angen i chi gysylltu â darparwr platiau rhif cofrestredig. Cyn y gellir creu'r plât rhif, bydd angen i chi ddarparu prawf bod gennych hawl i'r rhif a dangos dogfennau'n profi pwy ydych chi.
Cofrestr darparwyr platiau rhif
Dim ond darparwr platiau rhif cofrestredig ddylai greu platiau rhif. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i ddarparwr platiau rhif yn eich ardal chi.
Yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud
Bydd angen i chi gyflwyno o leiaf un ddogfen o'r ddwy restr isod fel y gall cyflenwr y plât rhif gadarnhau eich enw, eich cyfeiriad a'ch hawl i'r rhif. Dylai pob dogfen fod yn wreiddiol - nid copïau.
Dogfennau derbyniol i gadarnhau pwy ydych chi
- trwydded yrru, boed hi wedi ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu beidio (gyda llun neu heb lun). Mae hon yn ddogfen dda i'w chyflwyno oherwydd ei bod yn ddogfen ddiogel sy'n cael ei rhoi gan y llywodraeth ac yn dangos yr enw a'r cyfeiriad
- bil a roddir gan gyflenwr dŵr, nwy neu drydan, bil llinell ffôn ddaearol neu fil treth gyngor (cyfredol o fewn y chwe mis diwethaf)
- cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- pasport (boed y pasport wedi ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu beidio)
- cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth gwladwriaeth neu diriogaeth arall heblaw'r Deyrnas Unedig
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- cerdyn gwarant yr heddlu
- cerdyn adnabod y lluoedd arfog
Dogfennau derbyniol i sefydlu hawl i gael y rhif cofrestru
- Tystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C) - dyma'r ddogfen orau i'w chyflwyno
- bonyn rhwygo-i-ffwrdd V5C/2 (adran 10) y V5C
- tystysgrif hawl i rif (V750)
- dogfen cadw rhif arbennig (V778)
- ffurflen adnewyddu trwydded cerbyd (V11).
- tystysgrif cofrestru dros dro (V379)
- tystysgrif awdurdodi (V948) gyda stamp swyddogol DVLA
- llythyr awdurdodi gan reolwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu/llogi) - rhaid dyfynnu cyfeirnod y ddogfen V5C (nid rhif adnabod y cerbyd) ar y llythyr