Gyda'r gwasanaeth hwn, gellir symud rhif cofrestru oddi ar y cerbyd y'i haseiniwyd iddo a'i gadw ar ddogfen gadw am 12 mis cyn ei ailaseinio i gerbyd arall. Gellir ymestyn y cyfnod cadw'n flynyddol, ar yr amod y gwneir hynny cyn y dyddiad dod i ben.
Mae'r cyfleuster hwn hefyd yn caniatáu i'r ymgeisydd enwebu person sydd â'r cerbyd y gallen nhw fod yn dymuno aseinio'r rhif iddo maes o law.
Dim ond ceidwad cofrestredig cerbyd sydd â'r hawl i wneud cais am gadw ei rif cofrestru.
Rhaid i gerbydau perthnasol fod â thrwydded gyfredol, yn amodol ar brawf blynyddol, ac ar gael i'w harchwilio. Fodd bynnag, os nad yw'r cerbyd sy'n rhoi'r rhif wedi'i drethu, bydd ceisiadau'n parhau i gael eu hystyried:
Dalier sylw:
*O 1af Rhagfyr 2005 caiff y consesiwn hwn ei ymestyn i gynnwys ceisiadau gan gerbydau sydd â'u trwydded wedi dod i ben o fewn 12 mis i ddyddiad y cais. Dim ond ar ôl gwneud Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol (HOS) y bydd y consesiwn hwn yn berthnasol.
Er mwyn i gerbyd fod yn gymwys ar gyfer hyn, ni cheir cael toriad rhwng dyddiad dirwyn i ben y drwydded a dechrau'r HOS.
Dan yr amgylchiadau hynny, rhaid bodloni holl ofynion eraill y broses drosglwyddo rhifau cyn i geisiadau gael eu hystyried. Dylai cerbydau sy'n derbyn rhif fod â threth arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn y broses drosglwyddo rhif.
Dan y ddau amgylchiad uchod, rhaid cwrdd â holl ofynion eraill y cyfleuster cadw rhif cyn i geisiadau gael eu hystyried.
Dylai cerbydau sy'n derbyn rhif fod â threth arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn y broses cadw rhif.
Gyda'r cynllun cadw hwn, mae modd tynnu rhif oddi ar gerbyd yr aseiniwyd hwnnw iddo a'i gadw ar ddogfen gadw am 12 mis cyn ei aseinio i gerbyd arall. Gellir ymestyn y cyfnod cadw'n flynyddol, ar yr amod y gwneir hynny cyn y dyddiad dod i ben. Mae'r cyfleuster hwn hefyd yn caniatáu i'r ymgeisydd enwebu person sydd â'r cerbyd y gallen nhw fod yn dymuno aseinio'r rhif iddo maes o law.
Y ffurflen gais V778/1. Mae tudalen i'w rhwygo oddi ar y ffurflen ac arni ganllawiau ar ffurf cwestiwn ac ateb. Dylech ddarllen y rhain yn hynod ofalus a'u cadw'n ddiogel er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol. Dylid anfon y dogfennau cais a'r dogfennau cysylltiedig i'r swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol agosaf.
Sylwch os gwelwch yn dda y bydd yn rhaid cynnal prawf adnabod os yw cerbydau o Ogledd Iwerddon wedi'u cofrestru ar yr un pryd yng Ngwledydd Prydain (GB) ac yn rhan o gais i gadw rhif.
Efallai y bydd y swyddfa DVLA leol yn dymuno archwilio'r cerbyd. Os yw popeth yn iawn, rhoddir rhif cofrestru newydd ar sail ei oedran i'r cerbyd sy'n rhoi (y cerbyd sy'n ildio'r rhif cofrestru), ac os yw hynny'n briodol, bydd disg dreth newydd yn cael ei rhoi a'r dystysgrif MOT yn cael ei haddasu i ddangos y rhif cofrestru newydd. Byddwch wedyn yn cael cyfarwyddiadau i newid y platiau rhif ar y cerbyd a dychwelyd unrhyw hen ddisg dreth i'w chanslo.
*Os cafodd y cerbyd ei gofrestru yn gyntaf cyn 1963 a bod angen rhif cofrestru newydd ar sail ei oedran nad yw yn cynnwys adnabyddwr blwyddyn, efallai ni fydd yn adlewyrchu’r union ddyddiad cofrestrwyd y cerbyd yn gyntaf.
Bydd y papurau'n cael eu hanfon i'r DVLA, Abertawe er mwyn diweddaru'r cofnodion. Fel arfer, byddwch yn derbyn Dogfen Gadw V778 yn dangos mai chi yw'r grantai (dilys am 12 mis) a Thystysgrif Gofrestru V5C ar gyfer y cerbyd dan ei rif cofrestru newydd o fewn 4 wythnos i dderbyn eich llythyr cadarnhau gan y Swyddfa Leol. Fodd bynnag, os defnyddiwyd V62 i gefnogi'ch cais, gall gymryd hyd at 8 wythnos. Rhaid i'r V778 gael ei gadw'n gwbl ddiogel oherwydd bydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn aseinio'r rhif yn ddiweddarach. Bydd y nodiadau sydd ar y V778 yn egluro sut i fynd ati i aseinio'r rhif i gerbyd. Bydd hefyd yn egluro sut i ymestyn hawliad ac ychwanegu neu newid manylion enwebai. Y ffi ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaethau hyn yw £25.
Unwaith i'r dyddiad dirwyn i ben fynd heibio, collir yr hawliad. Er nad oes rhaid i'r DVLA wneud hynny, mae'n anfon llythyrau atgoffa o'r dyddiad dirwyn i ben, ond y grantai sy'n gyfrifol am wneud cais am estyniad mewn da bryd.