Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trosglwyddo rhif cofrestru a sut i wneud cais

Aseinir rhifau cofrestru i gerbydau. Dim ond fel ceidwad y cerbyd y cewch chi wneud cais i drosglwyddo neu gadw ei rif. Dylech gofio nad oes modd trosglwyddo a chadw rhifau cofrestru ar bob cerbyd ac nad oes modd trosglwyddo pob un rhif.

Pan fydd modd trosglwyddo rhif, rhaid i'r cerbyd y mae'n cael ei drosglwyddo iddo fodloni rhai meini prawf penodol. Mae'r ffurflenni trosglwyddo a chadw V317 a V778/1 (yn y drefn honno) yn nodi gofynion y cynlluniau ac yn rhoi cyngor pellach ar ffurf cwestiwn ac ateb.

Mae’r ffurflen, Rhifau Cofrestru a Chi INF46, hefyd yn cynnig rhagor o wybodaeth ar y cynlluniau ac mae ar gael i lwytho. Mae hefyd yn cael ei chynnwys pryd rydych yn archebu’r pecynnau trosglwyddo rhif neu gadw o’r gwasanaeth archebu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Ble mae cael gafael ar y ffurflenni V317 a V778/1?

Mae'r ffurflenni ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) drwy ddilyn y ddolen isod neu o'ch swyddfa DVLA leol.

Pwy all wneud cais?

Dim ond ceidwad cofrestredig cerbyd sydd â'r hawl i wneud cais am drosglwyddo ei rif cofrestru.

Beth yw'r gofynion ar gyfer cerbydau cymwys?

Rhaid i gerbydau sy'n cymryd rhan yn y cynllun Trosglwyddo Rhif fod â thrwydded gyfredol, gael prawf blynyddol (MOT/HGV) yn ogystal â bod ar gael i'w harchwilio. Fodd bynnag, i helpu pobl sy’n methu ail-drwyddedu eu cerbydau oherwydd rhesymau annisgwyl, bydd ceisiadau'n parhau i gael eu hystyried gan y DVLA:

  • os yw’r disg dreth ar gyfer y cerbyd sy'n rhoi'r rhif wedi dod i ben o fewn 12 mis i ddyddiad y cais. (Cyn 1 Rhagfyr 2005 roedd y consesiwn yn chwe mis.) Mae angen nodi, er mwyn i gerbyd fod yn gymwys ar gyfer hyn, ni cheir cael toriad rhwng dyddiad dirwyn i ben y drwydded a dechrau'r HOS. Nid yw’r consesiwn hyn yn gymwys os ydych wedi cyflwyno eich trwydded (treth) am ad-daliad.
  • os nad yw'r cerbyd sy'n rhoi'r rhif yn ddigon hen i gael prawf, h.y. yn llai na thair oed yn achos ceir, beiciau modur a.y.b. neu'n llai na blwydd oed yn achos Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV)

Dan yr amgylchiadau hynny, rhaid bodloni holl ofynion eraill y broses drosglwyddo rhifau cyn i geisiadau gael eu hystyried. Dylai cerbydau sy'n derbyn rhif fod â threth arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn y broses drosglwyddo rhif.

A oes rheolau arbennig ar gyfer beiciau modur?

Nac oes, fe all beiciau modur a mopedau gymryd rhan lawn yn y broses drosglwyddo rhifau, a bwrw eu bod yn bodloni'r gofynion trosglwyddo arferol.

A oes unrhyw fath o gerbyd nad yw'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun trosglwyddo?

Os nad oes rhaid i gerbyd gael prawf, ni chânt gymryd rhan yn y cynllun, e.e. tractorau, cerbydau a yrrir gan drydan a.y.b.

A oes modd trosglwyddo rhif cofrestru o'r naill gerbyd i'r llall os oes un o'r cerbydau wedi'i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon?

Oes, ar yr amod bod y naill gerbyd a'r llall yn bodloni gofynion y cynllun trosglwyddo. Dylech gysylltu â'ch swyddfa DVLA leol am ragor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Rhaid i unrhyw gais am drosglwyddo rhif cofrestru gael ei wneud ar ffurflen gais trosglwyddo V317 sydd ar gael o'ch swyddfa DVLA leol neu gan y DVLA, Abertawe.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU