Ystyr cerbydau sydd wedi'u newid yn sylweddol yw'r rhai y mae eu manylebau gwreiddiol wedi'u newid yn sylweddol, ond sydd heb gael eu trawsnewid â chit. Yn yr achosion hyn, rhoddir sgôr i'r cydrannau a gadwyd o'r cerbyd gwreiddiol, er mwyn penderfynu oes modd cadw'r rhif cofrestru gwreiddiol.
Rhaid i'r cerbyd gael wyth neu fwy o bwyntiau i allu cadw'r rhif cofrestru gwreiddiol. Os bydd y sgôr yn llai nag wyth pwynt, neu os bydd ffrâm y car yn ail-law, wedi'i addasu neu'n ffrâm ungragen, bydd angen tystysgrif cymeradwyaeth cerbyd sengl estynedig (ESVA), cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA) neu gymeradwyaeth cerbyd sengl i feiciau modur (MSVA) er mwyn cofrestru'r cerbyd. Caiff rhif cofrestru gyda 'Q' yn llythyren flaen ei neilltuo.
Rhoddir y sgoriau canlynol i'r prif gydrannau a ddefnyddir:
Lle mae tystiolaeth bod dau gerbyd wedi eu weldio yn ei gilydd i greu un cerbyd rhoddir rhif cofrestru 'Q' iddo. Bydd angen prawf ESVA, SVA neu MSVA arno.
Mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, bod gan bob cerbyd a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus rif adnabod cerbyd. Gall y rhif hwn fynd ar goll pan gaiff cerbyd ei ailadeiladu'n sylweddol, yn enwedig gyda cherbydau cit pan nad yw'r gwneuthurwr wedi stampio ffrâm neu gorff y cerbyd. Dan amgylchiadau o'r fath, bydd y swyddfa DVLA leol yn neilltuo rhif adnabod cerbyd newydd yn lle'r hen un. Bydd y swyddfa DVLA leol yn anfon llythyr awdurdodi atoch ond ni fydd y broses gofrestru wedi'i chwblhau hyd nes bod yr Asiantaeth yn derbyn cadarnhad bod y cerbyd wedi'i stampio gyda'r rhif adnabod cywir.
Rhaid dilyn y drefn ganlynol wrth wneud cais am gofrestru cerbyd sydd heb rif adnabod a'i drwyddedu am y tro cyntaf:
Caiff pob cerbyd sydd heb rif adnabod (Rhif Adnabod Cerbyd a rhif cofrestru) eu harchwilio gan y DVLA a'u cyfeirio at yr heddlu. Ni ddylai ymgeiswyr sy'n ailadeiladu cerbydau ac yn gallu profi o ble ddaeth y cydrannau boeni o gwbl am hyn. Fodd bynnag, os yw'r heddlu'n amau bod cerbyd wedi'i ddwyn bydd y DVLA yn gwrthod ei gofrestru ac efallai y caiff ei gloi mewn pownd.
Cynghorir unrhyw un sy'n bwriadu prynu cerbyd heb rif adnabod i fod yn hynod o wyliadwrus. Os oes amheuon bod y cerbyd wedi'i ddwyn, mae perygl y gallech golli'r cerbyd ynghyd â'r arian a dalwyd gennych amdano.