Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cofrestru cerbydau sydd wedi'u hail-adeiladu, ceir cit a cheir gyda'r cit wedi'i drawsnewid

Os byddwch chi'n ailadeiladu cerbyd, neu'n adeiladu cerbyd o git neu'n cael trawsnewidiad cit, bydd angen i'r car fodloni rhai meini prawf cyn y gellir ei gofrestru. Bydd y swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol yn rhoi'r rhif gwreiddiol neu rif addas ar sail y dystiolaeth a ddarperir.

Cerbydau sydd wedi eu hailadeiladu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarnau hen a newydd

Er mwyn cadw'r rhif cofrestru gwreiddiol:

  • mae'n rhaid i geir a faniau sydd wedi deillio o geir ddefnyddio:

Y ffrâm wreiddiol neu gorff heb ei addasu (h.y. y corff a'r ffrâm fel un uned - ungragen); neu ffrâm newydd neu gorff ungragen o'r un manyleb â'r gwreiddiol gyda thystiolaeth o hynny gan y gwerthwr neu'r gwneuthurwr (e.e. derbynneb).

Dwy gydran ganolog arall o'r cerbyd gwreiddiol - h.y. yr hongiad (blaen a chefn); offer llywio; echelau (y ddwy); trawsyriant neu injan.

Os defnyddir ffrâm neu gorff ungragen ail-law, rhaid i'r cerbyd basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl estynedig (ESVA) neu gymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA), ac ar ôl hynny caiff rhif cofrestru gyda "Q" yn llythyren flaen ei neilltuo.

  • rhaid i feiciau modur ddefnyddio:

Ffrâm heb ei haddasu (gwreiddiol neu newydd) a dwy gydran ganolog arall o'r cerbyd gwreiddiol: ffyrch, olwynion ac injan neu flwch gêr.

Os defnyddir ffrâm ail-law, mae'n rhaid i'r cerbyd basio prawf cymeradwyaeth cerbyd sengl i feiciau modur MSVA) ac ar ôl hynny caiff rhif cofrestru gyda 'Q' yn llythyren flaen ei neilltuo

Ceir Cit

Lle mae holl ddarnau'r cerbyd wedi eu cyflenwi'n newydd gan y gwneuthurwr. Ar yr amod bod derbynebau boddhaol a thystysgrif newydd-deb yn cael eu cyflwyno, cofrestrir y cerbydau hyn o dan rif cofrestru cyfredol.

Bydd ceir cit sydd wedi eu hadeiladu trwy ddefnyddio dim mwy nag un gydran wedi'i hailwampio hefyd yn cael eu cofrestru o dan rif cyfredol. Mae hyn yn dibynnu ar dderbyn tystiolaeth foddhaol bod y gydran dan sylw wedi'i hailwampio i safon "fel newydd" . Bydd angen prawf ESVA, SVA neu MSVA arno.

Ceir gyda thrawsnewidiad cit

Mae hyn yn golygu bod cit o ddarnau newydd wedi ei ychwanegu at gerbyd neu fod hen ddarnau wedi eu hychwanegu at git sy'n cynnwys corff, ffrâm neu gorff ungragen gan wneuthurwr. Bydd golwg gyffredinol y cerbyd yn newid ac yn arwain at newid ei ddisgrifiad ar y dystysgrif gofrestru.

Bydd cerbyd yn cadw'r rhif cofrestru a roddwyd iddo os defnyddir naill ai'r ffrâm neu'r corff ungragen wreiddiol, heb ei haddasu, ynghyd â dwy gydran ganolog arall. Os defnyddir ffrâm neu gorff ungragen newydd gan wneuthurwr citiau arbenigol (neu ffrâm neu gorff ungragen wedi'i addasu o gerbyd presennol) ynghyd â dwy gydran ganolog o gerbyd arall, rhoddir rhif i'r cerbyd ar sail ei oedran. Bydd y rhif hwn yn seiliedig ar oedran y cerbyd sy'n cyflenwi'r darnau. Bydd angen prawf ESVA, SVA neu MSVA er mwyn cofrestru'r cerbyd.

Os nad oes modd cael digon o ddarnau gan y cerbyd sy'n cyflenwi darnau, neu pan fydd y rhif cofrestru gwreiddiol yn anhysbys, bydd angen tystysgrif ESVA, SVA neu MSVA er mwyn cofrestru'r cerbyd a chaiff rhif cofrestru gyda 'Q' yn llythyren flaen ei neilltuo.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU