Os byddwch chi'n ailadeiladu neu'n newid cerbyd yn sylweddol, neu'n adeiladu cerbyd o git, bydd angen i'r car fodloni rhai meini prawf cyn gellir ei gofrestru. Bydd swyddfa leol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi'r rhif gwreiddiol neu rif addas ar sail y dystiolaeth a ddarperir.
Weithiau, fodd bynnag, mae angen ail-greu cerbyd, a gall hyn godi amheuaeth wrth geisio'i adnabod. Ai’r cerbyd gwreiddiol ydyw sydd wedi ei drwsio, neu a oes cymaint o ddarnau newydd neu wahanol wedi eu defnyddio yn y broses o'i ailadeiladu nes bo’r cerbyd gwreiddiol mewn gwirionedd wedi ei dynnu’n ddarnau?
Wrth roi rhif cofrestru i gerbyd sydd wedi'i ailadeiladu, diddordeb pennaf yr Asiantaeth yw sefydlu a yw'r cerbyd wedi ei adeiladu o'r newydd heb unrhyw fanylion cofrestredig (yn ei ffurf bresennol) ai peidio. Mae angen i gerbydau sydd wedi eu hailadeiladu'n sylweddol gael eu harchwilio gan un o swyddfeydd lleol y DVLA.
Mae'n rhaid i bob car sy'n cael ei hysbysu fel car anadferadwy i DVLA o fewn categorïau adfer A, B neu C basio archwiliad adnabod cerbyd, a gynhelir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA), cyn y bydd DVLA yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C.
Os bydd car wedi'i ailadeiladu fel rhan o'r broses drwsio, gall hyn godi amheuaeth wrth geisio'i adnabod. Wrth wneud cais am archwiliad adnabod cerbyd gofynnir i chi ddatgan a yw chassis neu gorff monocoque y car wedi'i ddisodli neu ei addasu mewn unrhyw ffordd. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn galluogi VOSA i benderfynu a ellir bwrw ymlaen â'ch cais am VIC neu a ddylid cyfeirio eich car at swyddfa leol DVLA i gael ei archwilio, lle bydd yn cael ei asesu yn unol â chanllawiau ailadeiladu'r DVLA yn lle.
Os bydd car yn methu archwiliad adnabod cerbyd gan na ellir cadarnhau ei fanylion, ni ellir cadw ei rif cofrestru gwreiddiol. Efallai y bydd yn bosibl cofrestru'r car gyda DVLA os gellir darparu tystiolaeth o Gymeradwyaeth Math Cenedlaethol Prydain i ddechrau ar ffurf Tystysgrif Cymeradwyaeth y Gweinidog. Gellir cael hyn drwy wneud cais i VOSA am Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA). Fodd bynnag, cyn gwneud hynny bydd angen i chi gael rhif adnabod cerbyd (VIN) arall gan y swyddfa leol DVLA.
Os bydd yr archwiliad cymeradwyaeth cerbyd sengl a’r asesiad gan y swyddfa leol DVLA yn llwyddiannus, caiff rhif cofrestru 'Q' ei dyrannu.