Os pasioch chi'ch prawf gyrru car ar 1 Ionawr 1997 neu wedi hynny, a'ch bod nawr yn dymuno tynnu carafán neu rai mathau o ôl-gerbyd, bydd rhaid i chi sefyll prawf arbennig.
Mae pob gyrrwr sydd wedi pasio prawf cerbyd cyn 1 Ionawr 1997 yn cadw'u hawl presennol i dynnu ôl-gerbydau hyd nes bydd eu trwydded yn dod i ben. Mae hyn yn golygu, fel rheol, fod ganddynt hawl i yrru cerbyd ac ôl-gerbyd sydd gyda'i gilydd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o hyd at 8.25 tunnell. Mae ganddynt hefyd hawl i yrru bws mini gydag ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg.
Mae pob gyrrwr sydd wedi pasio prawf gyrru car ar 1 Ionawr 1997 neu wedi hynny yn cael eu cyfyngu i yrru cerbydau gydag uchafswm màs awdurdodedig o hyd at 3.5 tunnell yn tynnu ôl-gerbyd o hyd at 750 kgs, neu gyfuniad o gerbyd ac ôl-gerbyd gyda MAM o hyd at 3.5 tunnell, cyn belled nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na màs y cerbyd tynnu heb ei lwytho. Bydd angen i chi basio prawf gyrru pellach B+E os hoffech dynnu carafán neu gyfuniad ôl-gerbyd sy'n fwy na'r cyfyngiadau pwysau hyn.
Mae'r prawf car ac ôl-gerbyd (B+E) wedi'i seilio ar y prawf gyrru lorïau ac yn para am tua awr. Nodwch os gwelwch yn dda fod profion B+E yn cael eu cynnal mewn canolfannau profion gyrru galwedigaethol (bysiau a lorïau).
Mae'r prawf tynnu (B+E) yn cynnwys cwestiynau am ddiogelwch cerbydau, symudiad bacio'n ôl oddi ar y ffordd, stopio dan reolaeth, bachu a dadfachu'r ôl-gerbyd a gyrru ar y ffordd.
Fydd dim gofyn i chi wneud yr ymarferiadau canlynol:
Mae profion diogelwch sylfaenol y dylai gyrwyr eu gwneud i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio. Er y bydd rhai profion yn golygu agor y boned i ddangos ble y dylid gwirio lefelau hylif, ni fydd gofyn i'r disgyblion gyffwrdd ag injan boeth neu wirio lefelau hylif.
Wrth i dechnoleg cerbydau ddatblygu, mae gan fwy a mwy o gerbydau systemau diagnostig electronig, sy'n rhoi gwybod i'r gyrrwr am gyflwr lefelau hylif yr injan a phwysedd y teiars. Bydd yn dderbyniol i'r ymgeisydd gyfeirio at system wybodaeth y cerbyd (os oes un) wrth ateb cwestiynau am lefelau hylif neu bwysedd teiars.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ateb pum cwestiwn a fydd yn gyfuniad o gwestiynau 'dangoswch i mi' a 'dywedwch wrtha' i'. Bydd gwall gyrru yn cael ei gofnodi ar gyfer pob ateb anghywir hyd at uchafswm o bedwar gwall gyrru. Os bydd yr ymgeisydd yn ateb y pum cwestiwn yn anghywir, cofnodir hynny fel gwall difrifol.
I gael rhestr o'r cwestiynau y gellid eu gofyn i chi yn eich prawf gyrru, cliciwch ar y ddolen i'r cwestiynau am ddiogelwch cerbydau isod.
Gallwch drefnu prawf car ac ôl-gerbyd ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post. Rhaid i chi gael cerdyn debyd neu gerdyn credyd dilys a rhif eich trwydded yrru i drefnu prawf ar-lein neu dros y ffôn. I drefnu ar-lein, cliciwch ar y ddolen a elwir yn 'archebu prawf ymarferol ar-lein' isod. I drefnu dros y ffôn, ffoniwch y rhif trefnu cenedlaethol - 0870 01 01 372.
I dalu am eich prawf ymarferol gyda siec neu archeb bost, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen brawf ymarferol i chi ei llwytho oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen 'ffurflen cais am brawf ymarferol ar gyfer ceir ac ôl-gerbydau'.