Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau masnachol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA)

Yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yw'r unig asiantaeth yng Ngwledydd Prydain sydd yn gosod safonau gyrru. Mae gan y DSA flynyddoedd o brofiad wrth asesu gyrwyr ceir a beiciau modur gan ei fod yn cynnal dros filiwn o brofion gyrru, ar draws yr holl gategorïau o gerbydau, bob blwyddyn. Mae'r DSA hefyd yn hyfforddi, yn profi ac yn monitro perfformiad arholwyr ac yn gosod y safonau a'r maes llafur y bydd pob hyfforddwr gyrru cymeradwy yn eu dilyn.

Monitro safonau gyrru

Mae'r gwasanaeth monitro safonau gyrwyr (DQM) yn darparu golwg wrthrychol a gwybodus ar allu gyrwyr bysiau a bysiau moethus.

Mae Strategaeth Diogelwch y Ffordd newydd y llywodraeth wedi ymestyn rôl y DSA i gynnwys asesu safonau gyrwyr proffesiynol a chynorthwyo eu cyflogwyr i gynnal safonau diogelwch uchel.

Amcanion y DQM yw:

  • gwella a chynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol o ddiogelwch ar y ffordd
  • lleihau damweiniau ar y ffordd i deithwyr a cherddwyr
  • cyfrannu at leihau hawliadau yswiriant a chyfraddau premiwm
  • mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch safonau gyrru, sy'n cael eu hamlygu drwy ohebiaeth, arolygon o ddamweiniau ac arolygon eraill
  • ysgogi ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr o faterion gyrru a diogelwch ar y ffordd, ac effaith y rhain ar wasanaethau cwsmeriaid
  • nodi a manylu ar anghenion hyfforddi gyrwyr ymhlith mudiadau ac unigolion

Gwerthuso gyrwyr wrth eu gwaith

Mae gan y DSA yr arbenigedd i werthuso gyrwyr wrth eu gwaith (ODA) ac i gynnig barn wrthrychol a gwybodus am allu gyrru gweithiwr.

Nod yr ODA yw:

  • gwella safonau diogelwch gweithgareddau o fewn sefydliad a helpu i leihau digwyddiadau sy'n ymwneud â gyrwyr wrth eu gwaith
  • nodi a manylu ar anghenion hyfforddi gyrwyr sefydliadau ac unigolion
  • gwella a chynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffordd
  • cynyddu ymwybyddiaeth gyrwyr o faterion gyrru a diogelwch ar y ffordd
  • helpu cyflogwyr i gynnal safonau diogelwch uchel
  • hyrwyddo diwylliant o ddatblygu gyrwyr yn barhaol

Am ragor o wybodaeth am unrhyw rai o'r gwasanaethau hyn, ewch i wefan y DSA.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU