Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y prawf gyrru ymarferol ar gyfer bysiau a lorïau

Os ydych chi eisiau gyrru lori neu fws, bydd angen i chi sefyll prawf gyrru theori ac ymarferol. Mae'r profion gyrru wedi'u cynllunio i brofi'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i yrru fel galwedigaeth. Mae'r prawf ymarferol yn cynnwys cwestiynau ynghylch diogelwch cerbydau, yn profi gallu i yrru a phrofi symudiadau penodol.

Beth fydd cynnwys y prawf?

Ar ddechrau'r prawf gofynnir pum cwestiwn i chi am ddiogelwch cerbydau a fydd yn gyfuniad o gwestiynau "dangoswch i mi" a "dywedwch wrtha' i". Am ragor o wybodaeth am y cwestiynau am ddiogelwch cerbydau, gweler yr adran isod.

Bydd y prawf yn profi eich gyrru cyffredinol a'ch gallu i gwblhau ymarferion penodol. Bydd yr ymarferion penodol yn cynnwys:

  • bacio'n ôl ar siâp 'S' i mewn i fae
  • ymarfer brecio
  • dangos y drefn bachu a dadfachu os ydych chi'n sefyll prawf gydag ôl-gerbyd

Os byddwch chi'n sefyll eich prawf mewn cerbyd â thrawsyriant llaw, bydd gofyn i chi gwblhau ymarfer newid gêr yn ystod rhan gyffredinol eich prawf lle byddwch chi'n gyrru.

Byddwch yn gyrru ar y ffordd am tua 60 munud a bydd y prawf i gyd yn para tua 90 munud.

Cwestiynau diogelwch am lorïau a bysiau

Mae profion diogelwch sylfaenol y dylai gyrwyr eu cynnal i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio. Er y bydd rhai profion yn golygu agor y boned i ddangos ble y dylid gwirio lefelau hylif, ni fydd gofyn i'r disgyblion gyffwrdd ag injan boeth neu wirio lefelau hylif mewn gwirionedd.

Wrth i dechnoleg cerbydau ddatblygu, mae gan fwy a mwy o gerbydau systemau diagnostig electronig, sy'n rhoi gwybod i'r gyrrwr am gyflwr lefelau hylif yr injan a phwysedd y teiars. Bydd yn dderbyniol i'r ymgeisydd gyfeirio at system wybodaeth y cerbyd (os oes un) wrth ateb cwestiynau am lefelau hylif neu bwysedd teiars.

Lorïau a cherbydau sy'n cludo teithwyr (PCV) (categorïau C a C1, D a D1)

Dylai gyrwyr sydd am gael hawl i drwydded alwedigaethol fod yn brofiadol ac yn meddu ar arbenigedd technegol, ac mae'r meini prawf asesu yn adlewyrchu hyn.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ateb pum cwestiwn a fydd yn gyfuniad o gwestiynau 'dangoswch i mi' a 'dywedwch wrtha' i'. Bydd gwall gyrru yn cael ei gofnodi ar gyfer pob ateb anghywir hyd at uchafswm o bedwar gwall gyrru. Os bydd yr ymgeisydd yn ateb y pum cwestiwn yn anghywir, cofnodir hynny fel gwall difrifol.

I gael rhestr o'r cwestiynau diogelwch y gellid eu gofyn yn eich prawf gyrru, cliciwch ar y ddolen i'r cwestiynau am ddiogelwch cerbydau isod.

Beth sy'n digwydd yn ystod y prawf?

Yn ystod y prawf gyrru bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Bydd llwybrau'r prawf yn cael eu cynllunio i fod mor debyg i'w gilydd â phosibl a byddant yn cynnwys yr amrywiaeth arferol o ffyrdd ac amodau traffig.

Gydol y prawf, fe ddylech yrru yn yr un modd ag y dysgodd eich hyfforddwr chi i yrru. Os gwnewch chi camgymeriad, peidiwch â phoeni. Mae'n bosibl nad yw'r gwall yn un difrifol ac na fydd yn amharu ar ganlyniad eich prawf. Bydd yr arholwr yn chwilio am safon gyffredinol ddiogel o yrru.

Fe allwch chi wneud hyd at 15 gwall gyrru a phasio'r prawf (bydd 16 neu fwy yn golygu methu). Fodd bynnag, os byddwch chi'n cyflawni un gwall difrifol neu beryglus, byddwch yn methu'r prawf. Os yw'ch arholwr ar unrhyw adeg yn ystyried eich bod yn peryglu defnyddwyr eraill ar y ffordd, fe gewch eich stopio.

Mae gennych hawl i fynd â rhywun gyda chi ar y prawf, ond mae'n rhaid i'r person hwn fod dros 16 oed ac ni all gymryd unrhyw ran yn y prawf.

Ar ôl y prawf ymarferol

Pan fydd y prawf gyrru ar ben, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych chi wedi llwyddo neu wedi methu. Gallwch ofyn am adborth gan yr arholwr, ac wedyn bydd yn dweud wrthych sut y gwnaethoch chi yn ystod y prawf.

Os byddwch yn pasio...

Os byddwch chi'n pasio a bod gennych drwydded gyrru cerdyn-llun a gyhoeddwyd ar ôl 1 Mawrth 2004, bydd yr arholwr yn gofyn i chi a ydych am gael eich trwydded yrru lawn yn awtomatig.

Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd yr arholwr yn cymryd eich hen drwydded oddi arnoch, yn sganio'r manylion ac yn eu hanfon ar fformat electronig i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Yna, fe gewch dystysgrif lwyddo sy'n profi eich bod wedi pasio'r prawf. Bydd DVLA yn anfon eich trwydded lawn newydd atoch drwy'r post o fewn tair wythnos ar ôl i chi basio'ch prawf ymarferol.

Os pasiwch chi'r prawf ond nad ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth awtomatig hwn, neu fod gennych drwydded a gyhoeddwyd cyn 1 Mawrth 2004, fe gewch chi dystysgrif lwyddo gan yr arholwr. Ar gefn y dystysgrif lwyddo, fe welwch beth fydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd hynny'n cynnwys anfon eich trwydded a'r ffi briodol i DVLA a fydd wedyn yn gwirio'ch cais ac yn anfon trwydded lawn newydd atoch.

Os byddwch yn methu...

Os byddwch chi'n methu'r prawf dylech ofyn i'r arholwr am rywfaint o adborth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf nesaf. Bydd y ffurflen adroddiad gyrru hefyd yn dangos i chi pa gamgymeriadau wnaethoch chi. Gallwch sefyll prawf ymarferol arall dridiau gwaith ar ôl eich prawf gyrru bws neu lori.

Safonau prawf gyrru

Hyfforddir pob arholwr i gynnal y prawf i'r un safon, ac ni fyddant yn cyfrif faint o brofion sy'n pasio a methu. Cyn belled â'ch bod yn gyrru i'r safon angenrheidiol, byddwch yn pasio'ch prawf gyrru.

Y tywydd / problemau mecanyddol ayb

Nid fydd y DSA yn cynnal profion os bydd y golau'n wael neu'r tywydd yn anffafriol er diogelwch yr ymgeisydd a'r arholwr. Byddwn yn trefnu apwyntiad arall heb unrhyw gostau ychwanegol, ond nid oes modd talu iawndal. Dylai ymgeiswyr alw'r rhif ffôn sydd ar y llythyr apwyntiad er mwyn cael gwybod a fydd eu prawf yn cael ei gynnal.

Os na chaiff y prawf gyrru ei gwblhau am resymau sy'n ymwneud â chi neu'ch cerbyd, bydd raid i chi sefyll prawf arall a thalu amdano eich hun.

Allweddumynediad llywodraeth y DU