Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofynion sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf - lori a bws

Rhaid i unrhyw gerbyd neu gyfuniad o gerbyd ac ôl-gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio mewn prawf fodloni safonau gofynion sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf. Mae'r safonau hyn yn rhan o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ar drwyddedu gyrwyr. Mae'n rhaid i Wledydd Prydain, fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gydymffurfio â'r gofynion hyn.

Gofynion Cerbyd

Ar bob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer profion Categorïau C1, C1 + E, C a C + E, rhaid bod gwregys diogelwch a drychau allanol wedi'u gosod ar ochr y gyrrwr a'r teithiwr at ddefnydd yr arholwr neu unrhyw un sy'n goruchwylio'r prawf.

Rhaid bod tacograff a system brecs gwrth-gloi (ABS) wedi'u gosod ym mhob cerbyd a ddefnyddir mewn prawf. Does dim angen gosod system brecs gwrth-gloi ar ôl-gerbydau.

Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau gael breciau gwasanaeth addas a threfniant bachu cydnerth sy'n addas i'r pwysau

Nid yw uned tractor yn gerbyd addas ar gyfer prawf categori C neu C1.

Cerbydau nwyddau o faint canolig

Categori C1

Lori o faint canolig gydag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) sy'n o leiaf 4 tunnell, yn o leiaf 5 metr o hyd, yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya) ac sydd ag adran gargo blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan a'r un mor uchel â'r cab.

Categori C1 + E

Ceir dau fath o gerbyd prawf yng nghategori C1 + E.

  • Uned Cerbyd â bar llusgo sydd wedi'i wneud o gyfuniad o gerbyd categori C1 yn tynnu ôl-gerbyd gyda MAM sy'n o leiaf 2 dunnell, yn o leiaf 8 metr o ran hyd y cyfan gyda'i gilydd, yn gallu cyrraedd 80km/awr (50 mya) ac sydd ag ôl-gerbyd blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor uchel a'r un mor llydan â'r cerbyd sy'n ei dynnu. Gall yr ôl-gerbyd fod ychydig yn gulach na'r cerbyd sy'n ei dynnu, ond dim ond drwy gyfrwng drychau allanol y gellir gweld y tu cefn.
  • Lori gymalog o faint canolig gyda MAM sy'n o leiaf chwe thunnell, yn o leiaf 8 metr o ran hyd y cyfan gyda'i gilydd, yn gallu cyrraedd 80km/awr (50 mya) ac sydd ag ôl-gerbyd blwch caeedig sydd o leiaf yr un mor uchel a'r un mor llydan â'r cerbyd sy'n ei dynnu. Gall yr ôl-gerbyd fod ychydig yn gulach na'r cerbyd sy'n ei dynnu, ond dim ond drwy gyfrwng drychau allanol y gellir gweld y tu cefn.

Cerbydau nwyddau mawr

Categori C

Cerbyd nwyddau undarn gyda MAM sy'n o leiaf 12 tunnell, yn o leiaf wyth metr o hyd ac yn o leiaf 2.4 metr o led, ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya). Dylai'r cerbyd fod ag o leiaf wyth cymhareb gêr ymlaen, adran gargo blwch-caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan a'r un mor uchel â'r cab.

Categori C + E

Ceir dau fath o gerbyd prawf yng nghategori C + E.

  • Uned Cerbyd â bar tynnu sydd wedi'i wneud o gyfuniad o gerbyd ac ôl-gerbyd categori C, gyda MAM o 20 tunnell ac sy'n o leiaf 7.5 metr o hyd o'r ddolen fachu i'r cefn un, a hyd gyda'i gilydd yn o leiaf 14 metr gydag ôl-gerbyd sy'n 2.4 metr o led. Dylai'r cyfuniad o gerbydau allu cyrraedd 80 km/awr (50mya), gydag o leiaf 8 cymhareb gêr ymlaen, ac adran gargo blwch-caeedig sydd o leiaf yr un mor llydan a'r un mor uchel â'r cab.
  • Lori gymalog gyda MAM sy'n o leiaf 20 tunnell, yn o leiaf 14 metr o hyd ac yn o leiaf 2.4 metr o led. Uchafswm hyd y cerbyd yw 16.5 medr (54 troedfedd) neu 18 medr (59 troedfedd) yw uchafswm hyd y cerbyd ar gyfer ôl-gerbyd llwytho isel a adeiladwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 1981. Dylai'r cerbyd allu cyrraedd 80 km/awr (50 mya), gydag o leiaf 8 cymhareb gêr ymlaen, ac adran gargo blwch-caeedig sydd o leiaf yr un mor uchel a'r un mor llydan â'r cab.

 

Cerbydau cludo teithwyr (bysiau)

Categori D1

Cerbyd Cludo Teithwyr (PCV) gyda rhwng 9 ac 16 o seddi teithwyr ac Uchafswm Màs Awdurdodedig (MAM) sy'n o leiaf bedair tunnell, yn o leiaf pum metr o hyd ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50 mya). Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.

Categori D1 + E

Cerbyd categori D1 yn tynnu ôl-gerbyd gyda MAM sy'n o leiaf 1.25 tunnell, gydag ôl-gerbyd blwch caeedig sy'n o leiaf dwy fetr o uchder ac yn ddwy fetr o led. Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.

Categori D

PCV gyda mwy nag wyth o seddi teithwyr, sy'n o leiaf 10 metr o hyd, yn o leiaf 2.4 metr o led ac yn gallu cyrraedd 80 km/awr (50mya). Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.

Categori D + E

Cerbyd categori D yn tynnu ôl-gerbyd gyda MAM sy'n o leiaf 1.25 tunnell, gydag ôl-gerbyd blwch caeedig sy'n o leiaf dwy fetr o uchder ac yn ddwy fetr o led. Tacograff, ABS, gwregys diogelwch a drychau'r arholwr.
Nodiadau:
Nid yw cerbydau limosîn estynedig a faniau carchar sy'n seiliedig ar ffram lori yn gerbydau addas ar gyfer prawf PCV (categori D).

Mae cerbydau PCV lle mae'n anodd i'r gyrrwr weld beth sy'n digwydd y tu ôl iddo yn gerbydau addas ar gyfer y prawf, gan y gwneir yr ymarfer brecio oddi ar y ffordd

Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau gael breciau gwasanaeth addas a threfniant bachu cydnerth sy'n addas i'r pwysau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU