Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cyflwyno trwydded yrru newydd. Mae'r drwydded yn edrych yn debyg iawn i'r hen drwydded blastig a gyflwynwyd er 1998.
Fodd bynnag, mae gan y drwydded newydd, sydd wedi ei gwneud yn llwyr o bolycarbonad, nifer o nodweddion diogelwch gwell na’r hyn oedd ar y drwydded hŷn. Un o’r prif wahaniaethau rhwng y ddwy yw mai llun du a gwyn sydd ar y fersiwn newydd, a llun lliw oedd ar yr hen un.
Eich manylion personol (1, 2 a 3)
Mae Maes 1, 2 a 3 eich trwydded cerdyn-llun yn cofnodi eich cyfenw, eich enwau cyntaf a dyddiad a man eich geni.
Dyddiad cyhoeddi'r drwydded, dyddiad y daw'r llun i ben, yr awdurdod cyhoeddi (4)
Mae'r llun yn ddilys o'r dyddiad a ddangosir yn 4a. 4b yw’r dyddiad pan fydd raid adnewyddu’r llun. 4c yw’r awdurdod sy’n cyhoeddi’r drwydded. Ym Mhrydain, y DVLA yw hwnnw.
Rhif gyrrwr (5)
| A | B | C | D | E |
|---|---|---|---|---|
| MORGA | 657054 | SM | 9IJ | ** |
A - Pum llythyren gyntaf y cyfenw. Os yw’r cyfenw’n fyrrach na phum llythyren, llenwir y bylchau sy’n weddill gyda’r rhif 9. (e.e. MAN99).
B - Y rhifau cyntaf a’r olaf yw'r flwyddyn geni. Yr ail a’r trydydd rhif yw’r mis geni. (Os ydych chi’n fenyw, ychwanegir ‘5’ at yr ail rif a defnyddir y cyfanswm fel yr ail ddigid. Felly os ydych chi’n fenyw a aned ym mis Hydref, yr ail a'r trydydd rhif fyddai 60.) Y pedwerydd a'r pumed digid yw diwrnod eich geni.
C - Dwy lythyren gyntaf eich enwau cyntaf. Os mai dim ond un llythyren sydd gennych, defnyddir ‘9’ ar gyfer yr ail.
D - Digidau gwirio’r cyfrifiadur.
E - Rhifau’r drwydded.
Llun y deilydd (6)
Llun du a gwyn sydd ar y drwydded cerdyn-llun newydd. Mae hyn oherwydd bod y dechnoleg laser a ddefnyddir i losgi’r ddelwedd ar y cerdyn i gynhyrchu llun du a gwyn yn llawer mwy diogel. Bydd yn rhaid i chi anfon llun lliw gyda’ch cais o hyd, er mwyn ei storio ar eich cofnod gyrrwr.
Llofnod y deilydd (7)
Atgynhyrchir hwn yn ddigidol o'r llofnod a roddwyd ar y ffurflen gais a'i losgi ar y cerdyn-llun.
Cyfeiriad y deilydd (8)
Dengys hwn gyfeiriad parhaol y gyrrwr ym Mhrydain Fawr.
Categorïau hawl (9)
Mae'r prif lythrennau'n dangos y categorïau hawl a ddaw dan Gyfarwyddeb Cymuned Ewrop. Dangosir y categorïau cenedlaethol mewn llythrennau llai.
Nodweddion holograffig (10)
Mae'r nodwedd hon yn debyg i hologram, ond yn gliriach, gyda llinellau penodol a lliwiau llachar. Mae’n cynnwys llyw sydd fel pe bai’n troi wrth i chi ogwyddo’r cerdyn i wahanol gyfeiriadau.
Delweddau newidiol (11a ac 11b)
a. Mae'r nodwedd diogelwch hon yn ddelwedd sy'n newid ei siâp a'i lliw yn ôl sut byddwch yn gogwyddo'r drwydded. Ar drwyddedau llawn (pinc) mae’n arwydd ffordd glas sy’n newid yn driongl du, ar drwydded dros-dro (gwyrdd) mae’n arwydd ffordd coch sy’n newid yn driongl du.
b. Mae’r nodwedd diogelwch hon yn bersonol, yn ôl y data ar y cerdyn. Mae’n cynnwys pum nod olaf y rhif gyrrwr, gan newid i’r mis a’r flwyddyn y daw’r llun i ben, ac mae’n ymddangos ac yn diflannu yn ôl sut byddwch yn gogwyddo’r drwydded.
Rhif adnabod unigryw (12)
Bydd gwneuthurwr y cardiau yn rhoi rhif arnynt ymlaen llaw. Ysgythrir y rhif hwn â laser ar y cerdyn cyn ei anfon at DVLA ac mae'n unigryw i bob cerdyn.
Ni ddefnyddiwyd (13 ac 14)
Pictogramau (15)
Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos y mathau o gerbydau yn y categorïau hynny a ddangosir.
Cyfnodau dilysrwydd categorïau (16)
Dyma'r dyddiadau y bydd yr hawl i yrru pob categori'n dechrau ac yn gorffen.
Codau gwybodaeth (17)
Mae rhifau'r codau sydd wedi'u hargraffu yn y rhan hon yn dangos pa gyfyngiadau sydd ar yr hawl (os oes cyfyngiadau).
Nodwedd diogelwch siâp llyw (18)
Mae hon yn nodwedd diogelwch ar ffurf llyw. Mae lliw'r olwyn yn newid o wyrdd i aur, yn ôl sut y gogwyddwch y drwydded.
Nodweddion diogelwch eraill
Mae gan y drwydded yrru hefyd arwyneb (dyrchafedig) y gellir ei adnabod drwy gyffwrdd, testun wedi'i ysgythru y gellir ei adnabod drwy gyffwrdd, lliwiau sy'n newid yn ogystal â dyluniadau cefndir cymhleth.
Cewch weld manylion pellach am y nodweddion diogelwch newydd yn nhaflen 'Trwydded yrru yn y DU - nodweddion diogelwch lefel 1' INF60/7. Mae gwybodaeth am y dudalen hon i'w gweld yn y daflen 'Eich trwydded yrru newydd' INF45/1.