Os ydych chi'n ymwelydd, yn byw neu'n fyfyriwr yng Ngwledydd Prydain (GB) a bod gennych drwydded yrru o'ch gwlad wreiddiol, mae rhai amodau penodol sy'n pennu am ba mor hir y cewch chi yrru a beth y cewch chi ei yrru yng Ngwledydd Prydain.
Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol yn lle y cynnwys isod. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.
Fe gewch chi yrru cerbydau hyd at 3.5 tunnell gyda hyd at wyth o seddi i deithwyr, ar yr amod bod eich trwydded lawn neu'ch hawlen yrru yn ddilys am hyd at 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddoch chi Brydain. Fodd bynnag, chewch chi ond gyrru cerbydau mawr sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Brydain a chithau wedi eu gyrru i mewn i'r wlad.
Os oes gennych chi drwydded yrru gyffredin (hawl i yrru car, moped neu feic modur), ac ar yr amod bod eich trwydded yn ddilys, fe gewch chi yrru unrhyw gerbyd categori bach a ddangosir ar eich trwydded am hyd at 12 mis o'r dyddiad y daethoch chi yma i fyw. I allu gyrru ar ôl hynny mae'n rhaid i chi gael trwydded Brydeinig dros dro a phasio prawf neu brofion gyrru cyn i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben. Os byddwch chi'n cael trwydded dros dro yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwch chi'n gorfod cydymffurfio ag amodau trwydded dros dro - megis dangos platiau 'L', cael eich goruchwylio gan yrrwr cymwys neu gael eich gwahardd rhag gyrru ar draffyrdd.
Fodd bynnag, os na fyddwch chi'n pasio prawf o fewn y cyfnod consesiwn o 12 mis, chewch chi ddim gyrru fel person sydd â thrwydded lawn a bydd amodau'r drwydded dros dro yn berthnasol. Os na fyddwch chi'n gwneud cais am drwydded dros dro o fewn y 12 mis cyntaf, rhaid i chi roi'r gorau i yrru a chael trwydded Brydeinig dros dro gyda golwg ar basio prawf gyrru. Bydd amodau'r drwydded dros dro wedyn yn berthnasol.
Os oes gennych chi drwydded alwedigaethol (hawl i yrru bws mini, bws neu lori) a chithau'n breswylydd newydd, chewch chi ddim gyrru cerbydau mawr hyd nes i chi basio'r prawf gyrru perthnasol ym Mhrydain. Mae'n rhaid i ymgeiswyr prawf gyrru basio prawf car modur (categori B) cyn gwneud cais am hawl dros dro i yrru cerbydau mwy.
Os ydych chi'n fyfyriwr sydd â thrwydded y Gymuned Ewropeaidd, fe gewch chi yrru ceir a beiciau modur ym Mhrydain cyn belled â bod eich trwydded yn ddilys, neu tan eich bod yn 70 oed. Os nad oes gennych chi drwydded, rhaid i chi fod wedi bod yn astudio yma am o leiaf chwe mis cyn sefyll prawf gyrru neu wneud cais am drwydded lawn.
Os ydych chi'n fyfyriwr sydd â thrwydded o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd neu â hawlen yrru ryngwladol, fe gewch chi yrru yma am hyd at 12 mis. Os oes gennych chi drwydded yrru o wlad benodol, efallai y gallwch wneud cais i'w chyfnewid am drwydded Brydeinig ar ôl byw yma am rhwng blwyddyn a phum mlynedd. Os nad oes gennych chi drwydded, neu os na roddwyd eich trwydded yn un o'r gwledydd perthnasol, bydd angen i chi wneud cais am drwydded dros dro ac yna basio prawf gyrru. Bydd modd i chi sefyll prawf a chael trwydded lawn unwaith i chi fod yng Ngwledydd Prydain am chwe mis.