Os oes gennych chi drwydded yrru dramor ac yn dymuno'i chyfnewid am drwydded yrru Brydeinig, mae rhai amodau penodol sy'n rhaid eu hystyried wrth wneud cais am hynny.
Yr ydym wastad yn ceisio gwella ein gwasanaeth, ac yr ydym wedi creu ffordd i chi dderbyn y gwybodaeth fwyaf cywir sydd wedi ei selio ar eich anghenion unigol yn lle y cynnwys isod. Os yn bosib, defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol a rhowch eich sylwadau i ni ar ôl i chi orffen os gwelwch yn dda.
Os ydych chi'n awyddus i newid eich trwydded yrru am drwydded Brydeinig, mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais D1 sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a changhennau Swyddfa'r Post® . Bydd gofyn i chi amgáu dogfennau gwreiddiol i gadarnhau pwy ydych chi a ffotograff lliw, ar ffurf llun pasport. Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi a'r ffi berthnasol i DVLA, Abertawe, SA99 1BT.
Os yw'r drwydded sy'n cael ei chyfnewid yn un alwedigaethol, ac i'r wreiddiol gael ei rhoi yn Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw, rhaid i chi hefyd ddarparu ffurflen adroddiad meddygol D4 wedi'i llenwi gan feddyg, gan sicrhau bod yr holl gwestiynau wedi'u hateb.
Os cafodd eich trwydded alwedigaethol ei rhoi mewn gwlad sydd yn y Gymuned Ewropeaidd (GE) neu yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), dim ond ffurflen adroddiad meddygol sy'n rhaid i chi ei darparu os ydych chi'n 45 oed neu'n hŷn pan fyddwch chi'n cyfnewid y drwydded. Mae hyn yn angenrheidiol hyd yn oed os yw eich trwydded alwedigaethol yn gyfredol. Gellir cael ffurflenni cais D2 a ffurflen feddygol D4 drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA.
Os oes gennych drwydded yrru lawn y GE/AAE, Gibraltar neu wlad ddynodedig, cewch ei chyfnewid am drwydded gyfatebol y DU gan ddefnyddio gwasanaeth gwirio premiwm.
Rhaid bodloni'r amodau canlynol cyn y gellir rhoi trwydded yn gyfnewid am drwydded Brydeinig:
Gan fod dwy fath o drwyddedau gyrru i'w cael yn Ne Affrica, bydd y canlynol yn berthnasol:
Os oes gennych chi drwydded o Ganada, dim ond ceir gyda thrawsyriant awtomatig gewch chi eu gyrru wrth gyfnewid y drwydded am un Brydeinig. Ni chaiff hon ei diweddaru'n drwydded trawsyriant gyda llaw hyd nes y cyflwynir tystiolaeth, gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol, fod prawf trawsyriant â llaw wedi'i basio neu'n cael ei basio yn y wlad hon.