Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwaharddiadau cyfnod byr (SPD)

Daeth gwaharddiadau cyfnod byr (SPD) i rym ar 1 Gorffennaf 1992 ac fe ellir eu gorfodi ar unrhyw droseddwr os ystyrir hynny'n briodol. Gall ynadon orfodi'r dull hwn o wahardd am unrhyw gyfnod sy'n llai na 56 diwrnod. Am fân droseddau y mae'r rhain fel rheol.

Beth fydd yn digwydd i'm trwydded

Os cewch eich gwahardd am lai na 56 diwrnod, bydd y llys yn stampio eich trwydded yrru bapur neu'ch dogfen manylion papur gan nodi manylion y gwaharddiad ac yn ei rhoi yn ôl i chi. Bydd y stamp yn dweud wrthych am faint rydych wedi'ch gwahardd. Bydd y Llys yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am fanylion y gwaharddiad ond ni fydd eu cofnodion yn dangos unrhyw effaith ar eich hawl i yrru. Mae'r gwaharddiadau tymor byr yn gwahardd rhag gyrru dros dro yn hytrach na diddymu'ch trwydded.

Pryd fydd gen i hawl i yrru

Chewch chi ddim gyrru yn ystod cyfnod y gwaharddiad cyfnod byr, ond fe gewch chi ailddechrau gyrru unwaith y bydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben, h.y. bydd eich trwydded yn ddilys ar y diwrnod ar ôl cyfnod y gwaharddiad. Nid oes rhaid i chi adnewyddu eich trwydded pan ddaw'r gwaharddiad cyfnod byr i ben.

Os byddwch chi'n apelio yn erbyn y gwaharddiad a'i fod yn cael ei ohirio wrth ddisgwyl y canlyniad, rhoddir stamp gwahanol ar eich trwydded. Os yw'r apêl yn llwyddiannus, gellir anfon y drwydded i'r DVLA er mwyn cael gwared â'r stamp a bydd trwydded newydd yn cael ei rhoi yn rhad ac am ddim.

A fydd rhaid i mi wneud cais eto am fy nhrwydded ar ôl y gwaharddiad cyfnod byr??

Os cafodd eich trwydded ei rhoi i'r llys o ganlyniad i newid yn eich manylion personol, yna bydd y llys yn anfon y drwydded ymlaen i'r DVLA i'w newid. Os mai trwydded cerdyn-llun yw'r drwydded, fe ellir rhoi un newydd yn ei lle. Fodd bynnag, os mai un o'r hen drwydded papur yw'r drwydded, yna bydd pecyn cynnig trwydded yrru cerdyn-llun yn cael ei anfon atoch. Ni fydd rhaid talu ffi am eich trwydded newydd.

Fodd bynnag, os ydych chi'n dymuno cael gwared ar stamp y gwaharddiad tymor byr o'r drwydded ar ôl i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben, rhaid anfon cais cyfnewid i'r DVLA gyda'r drwydded a'r ffi priodol. Sylwch os gwelwch yn dda, er y bydd y stamp gwaharddiad cyfnod byr yn cael ei dynnu oddi ar y drwydded, rhaid i'r ardystiad aros ar y drwydded yrru am bedair neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y trosedd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU