Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pryd y gellir dileu ardystiadau a phwyntiau cosb oddi ar drwydded yrru

Mae’r canlynol yn ganllawiau i nifer y pwyntiau cosb y gall llys eu rhoi. Nid yw’n adlewyrchu’r ffaith y gall rhai troseddau arwain at waharddiad. Dangosir cod y trosedd a'r pwyntiau cosb ar eich trwydded yrru, a rhaid iddynt aros yno am bedair neu un ar ddeg mlynedd, yn dibynnu ar y trosedd.

Cymharwch y codau ar eich trwydded yrru â'r rhestr isod.

Troseddau sy'n ymwneud â damweiniau

Rhaid i godau troseddu AC10 i AC30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
AC10 Methu â stopio ar ôl damwain 5-10
AC20 Methu rhoi manylion neu roi gwybod am ddamwain o fewn 24 awr 5-10
AC30 Troseddau damwain heb eu diffinio 4-9

Gyrrwr gwaharddedig

Rhaid i godau troseddu BA10 a BA30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
BA10 Gyrru tra dan waharddiad trwy orchymyn llys 6
BA30 Gyrru tra dan waharddiad trwy orchymyn llys 6

Gyrru diofal

Rhaid i godau troseddu CD10 i CD30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD10 Gyrru heb ofal na sylw priodol 3-9
CD20 Gyrru heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3-9
CD30 Gyrru heb ofal na sylw priodol neu heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3-9



Rhaid i godau troseddu CD40 i CD70 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD40 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal a chithau mewn cyflwr anaddas i yrru oherwydd alcohol 3-11
CD50 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal a chithau mewn cyflwr anaddas i yrru oherwydd cyffuriau 3-11
CD60 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal tra bo’r lefel alcohol yn uwch na'r lefel a ganiateir 3-11
CD70 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sampl i'w dadansoddi 3-11


Rhaid i godau troseddu CD80 a CD90 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod

Trosedd

Pwyntiau cosb

CD80

Achosi marwolaeth drwy yrru diofal neu anystyriol

3-11

CD90

Achosi marwolaeth drwy yrru: gyrrwyr didrwydded, wedi eu gwahardd neu heb yswiriant

3-11

Troseddau adeiladwaith a defnydd

Rhaid i godau troseddu CU10 i CU80 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CU10 Defnyddio cerbyd gyda breciau diffygiol 3
CU20 Achosi neu’n debyg o achosi perygl drwy ddefnyddio cerbyd anaddas neu ddefnyddio cerbyd sydd â rhannau neu ychwanegiadau (ac eithrio'r breciau, y llyw neu'r teiars) mewn cyflwr peryglus 3
CU30 Defnyddio cerbyd sydd â theiar(s) diffygiol 3
CU40 Defnyddio cerbyd sydd â llyw diffygiol 3
CU50 Achosi neu’n debyg o achosi perygl yn sgîl llwyth neu deithwyr 3
CU80 Defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd modur 3

Gyrru byrbwyll/peryglus

Rhaid i godau troseddu DD40 i DD80 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DD40 Gyrru’n beryglus 3-11
DD60 Dynladdiad neu laddiad beius wrth yrru cerbyd 3-11
DD80 Achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus 3-11
DD90 Gyrru'n wyllt 3-9

Alcohol neu gyffuriau

Rhaid i godau troseddu DR10 i DR30 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR10 Gyrru neu geisio gyrru tra bo’r lefel alcohol yn uwch na'r lefel a ganiateir 3-11
DR20 Gyrru neu geisio gyrru a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd diod 3-11
DR30 Gyrru neu geisio gyrru ac yna methu â rhoi sampl i’w dadansoddi 3-11

Rhaid i godau troseddu DR40 i DR70 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR40 Yn gyfrifol am gerbyd tra bo’r lefel alcohol yn uwch na’r lefel a ganiateir 10
DR50 Yn gyfrifol am gerbyd a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd diod 10
DR60 Methu â rhoi sampl i’w dadansoddi mewn amgylchiadau gwahanol i yrru neu geisio gyrru 10
DR70  Methu â rhoi sampl ar gyfer prawf anadl 4

Rhaid i god troseddu DR80 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR80 Gyrru neu geisio gyrru a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd cyffuriau 3-11


Rhaid i god troseddu IN10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR90  Yn gyfrifol am gerbyd a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd cyffuriau 10

Troseddau yswiriant

Rhaid i god troseddu IN10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
IN10 Defnyddio cerbyd heb ei yswirio yn erbyn risg trydydd parti 6-8


Troseddau trwydded

Rhaid i godau troseddu LC20 i LC50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
LC20 Gyrru mewn ffordd nad yw'n unol â'r drwydded 3-6
LC30 Gyrru ar ôl gwneud datganiad ffug am eich addasrwydd wrth wneud cais am drwydded 3-6
LC40 Gyrru cerbyd heb ddatgan anabledd 3-6
LC50 Gyrru ar ôl i drwydded gael ei diddymu neu ei gwrthod ar sail feddygol 3-6

Troseddau amrywiol

Rhaid i godau troseddu MS10 i MS90 aros ar eich trwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod

Trosedd

Pwyntiau cosb

MS10

Gadael cerbyd mewn lle peryglus

3

MS20

Mynd ar biliwn yn anghyfreithlon

3

MS30

Troseddau chwarae yn y stryd

2

MS50

Rasio moduron ar y briffordd

3-11

MS60

Troseddau heb eu cynnwys mewn codau eraill

Fel bo'n briodol

MS70

Gyrru gyda golwg diffygiol heb ei gywiro

3

MS80

Gwrthod cymryd prawf llygaid

3

MS90

Methu â rhoi gwybodaeth ynghylch pwy yw'r gyrrwr ayb

6



Troseddau traffordd

Rhaid i god troseddu MW10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
MW10 Torri rheoliadau ffyrdd arbennig (ac eithrio cyfyngiadau cyflymdra) 3

Croesfannau cerddwyr

Rhaid i godau troseddu PC10 i PC30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
PC10 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr (amhenodol) 3
PC20 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr mewn cerbyd sy'n symud 3
PC30 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr mewn cerbyd sy'n llonydd 3

Cyfyngiadau cyflymder

Rhaid i godau troseddu SP10 i SP50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
SP10  Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir i gerbydau nwyddau 3-6
SP20  Gyrru'n gynt na'r cyflymdra a ganiateir i'r math hwnnw o gerbyd (ac eithrio cerbydau nwyddau neu gerbydau teithwyr) 3-6
SP30 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra uchaf statudol a ganiateir ar ffordd gyhoeddus 3-6
SP40 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir i gerbyd cludo teithwyr 3-6
SP50 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir ar draffordd 3-6

Cyfarwyddiadau traffig ac arwyddion

Rhaid i godau troseddu TS10 i TS70 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
TS10 Methu â chydymffurfio ag arwyddion goleuadau traffig 3
TS20 Methu â chydymffurfio â llinellau gwyn dwbl 3
TS30 Methu â chydymffurfio ag arwydd 'Stop' 3
TS40 Methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau gan gwnstabl/warden 3
TS50 Methu â chydymffurfio ag arwyddion traffig (ac eithrio arwyddion 'stop', goleuadau traffig neu linellau gwyn dwbl) 3
TS60  Methu â chydymffurfio ag arwydd patrôl croesfan ysgol 3
TS70  Methu â chydymffurfio ag arwyddion cyfeirio traffig (amhenodol) 3

Cod arbennig

Rhaid i god troseddu TT99 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd
TT99  I nodi gwaharddiad dan y drefn 'pentyrru pwyntiau'. Os yw cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gall y gyrrwr gael ei wahardd

Dwyn neu gymryd heb ganiatâd

Rhaid i godau troseddu UT50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
UT50  Achos mwy difrifol o gymryd cerbyd 3-11

Helpu, annog, cwnsela neu gaffael

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 2 yn lle 0 ee LC10 yn newid yn LC12.

Achosi neu ganiatáu

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 4 yn lle 0 ee LC10 yn newid yn LC14.

Ysgogi

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 6 yn lle 0 ar y diwedd ee DD40 yn newid yn DD46.

Allweddumynediad llywodraeth y DU