Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad ar y ffordd lle bo digon o dystiolaeth i'ch erlyn, mae'n bosib y bydd yr heddlu yn cynnig cyfle i chi i fynychu cwrs. Mae cyrsiau'r Cynllun Cenedlaethol i Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru wedi'u cynllunio i wella'ch ymddygiad gyrru.
Os cewch gynnig cwrs, rhydd gyfle i chi osgoi cosb benodol, gorfod mynd gerbron llys o bosibl a phwyntiau cosb ar eich trwydded. Nod y cwrs y byddwch yn ei fynychu yw eich helpu i ddod yn yrrwr mwy cyfrifol, gan eich helpu chi i gyfrannu tuag at well ddiogelwch ar y ffordd ac yn y gymuned.
Nid oes prawf nac arholiad - eich presenoldeb a'ch parodrwydd i gymryd rhan yn y profiad yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r rhan fwyaf o'r heddluoedd yn y DU yn cynnig yr holl gyrsiau dan y trefniadau cenedlaethol. Dim ond unwaith mewn tair blynedd gallwch fynychu cwrs. Os byddwch yn aildroseddu o fewn y tair blynedd rhoddir hysbysiad cosb benodedig i chi neu bydd angen i chi fynd i'r llys.
Mae'r cynllun wedi'i drefnu fel bod modd i chi ddewis mynychu'r cwrs mewn lleoliad sy'n gyfleus i chi, cyhyd â bod y cwrs yn cydymffurfio â'r model cenedlaethol cymeradwy.
Bydd disgwyl i chi dalu am y cwrs, yn ogystal â rhoi o'ch amser i fynychu. Bydd darparwr y cwrs yn rhoi mwy o fanylion i chi am leoliadau'r cwrs, beth sydd ar gael, prisiau ac amserau pan fyddwch yn gwneud cais.
Cwrs gwella gyrrwyr cenedlaethol
Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn opsiwn amgen i erlyniad lle yr ydych wedi dangos eich bod wedi gyrru'n ddiofal neu'n anystyriol, neu drosedd debyg.
Mae'n golygu mynd i leoliad cymeradwy am ddiwrnod a hanner o hyfforddiant, a chewch hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth ac ar y ffordd.
Cynllun ymyrryd a datblygu profiad ar gyfer fyrrwyr beiciau modur (RiDE)
Gallai'r cwrs hwn gael ei gynnig i chi os ydych wedi bod yn gyrru mewn ffordd diofal neu anystyriol.
Mae hyn yn cynnwys:
Cynhelir y cwrs hyfforddi hwn mewn ystafell ddosbarth, a hynny mewn lleoliad cymeradwy am ddiwrnod.
Gallwch gael gwybod mwy am RiDE a sut mae rhoi adborth ar wefan RiDE.
Os ydych wedi cael cynnig cwrs ac yn dymuno holi ynghylch y cyrsiau sydd ar gael, edrychwch ar eich llythyr cynnig neu dilynwch y ddolen isod.
Bydd angen rhif eich trwydded yrru arnoch i gyflwyno'ch hun, lle byddwch yn gallu gweld prisiau a pha gyrsiau sydd ar gael. Mae'n bosib y bydd tâl ychwanegol i'r prisiau a nodir a dylid eu defnyddio fel arweiniad yn unig. Bydd darparwr y cwrs yn rhoi mwy o fanylion i chi.
Bydd angen i chi gysylltu â darparwr cwrs i drefnu a thalu am gwrs.