Os ydych chi wedi'ch gwahardd rhag gyrru am fwy na dwy flynedd, mae'r gyfraith yn eich galluogi i wneud cais i gwtogi cyfnod y gwaharddiad dan rai amodau arbennig.
Fe gewch chi wneud cais am gwtogi cyfnod eich gwaharddiad dan yr amgylchiadau canlynol:
Bydd angen i chi wneud cais i'r llys ble'ch dedfrydwyd yn euog. Dylai'r llythyr roi manylion y trosedd a dyddiad yr euogfarn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall a allai gyfiawnhau cwtogi hyd y gwaharddiad.
Os bydd y llys yn cytuno i gwtogi hyd y gwaharddiad, bydd yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Fe allwch chi wneud cais i'r DVLA i adfer eich trwydded yrru yn gynnar ond ni fydd trwydded yn cael ei rhoi hyd nes y ceir cadarnhad gan y llys. Cofiwch, hyd yn oed os bydd y llysoedd yn cymeradwyo cwtogi cyfnod y gwaharddiad, nid yw hyn yn effeithio ar y cyfnod (pedair mlynedd neu un mlynedd ar ddeg, gan ddibynnu ar y trosedd) y mae'n rhaid i'r ardystiad aros ar y drwydded yrru yn ôl y gyfraith.