Sut mae dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben oddi ar eich trwydded yrru
I ddileu ardystiadau sydd wedi dod i ben oddi ar eich trwydded yrru, bydd angen i chi wneud cais am gyfnewid eich trwydded am un newydd. Gallwch wneud cais drwy'r post, neu os oes gennych drwydded yrru bapur, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm.
Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- llenwi ffurflen D1 - ‘cais am drwydded yrru’, ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post®
- amgáu eich trwydded yrru cerdyn-llun, y papur manylion a'r ffi briodol o £20.00
- os yw'ch enw wedi newid, bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich enw newydd
- anfon yr holl ddogfennau i DVLA, Abertawe SA99 1BU
Os oes angen i chi adnewyddu eich llun
Gallwch adnewyddu eich llun unrhyw adeg, fodd bynnag, os yw oes eich llun yn dod i ben yn fuan iawn, bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad y daw i ben. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.
Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein.
Os oes gennych drwydded yrru bapur
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- llenwi ffurflen D1 - ‘cais am drwydded yrru’, ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post®
- darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
- amgáu eich llun math pasport, eich trwydded yrru bapur a'r ffi briodol o £20.00
- anfon eich holl ddogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1BU neu gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm a geir yng nghanghennau Swyddfa'r Post® neu mewn swyddfeydd DVLA lleol
Pryd fydd eich trwydded yrru newydd yn cyrraedd
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i ni dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.
Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëwyd gan laser.
Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd
Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:
- mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
- nad ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru neu nad yw eich trwydded wedi'i diddymu o dan y telerau neu o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995
- na fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
- na fyddai DVLA yn gwrthod rhoi trwydded i chi am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
- rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded