Os ydych chi'n gwneud cais am drwydded car neu feic modur, neu os oes gennych chi un eisoes (grŵp un)
Gallwch lwytho'r daflen wybodaeth neu'r holiadur meddygol priodol oddi ar y we er mwyn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich cyflwr meddygol neu eich anabledd. Mae'r holiadur yn cynnwys ffurflen ganiatâd y mae'n rhaid ei llofnodi, a fydd yn gadael i DVLA wneud ymholiadau meddygol ynghylch eich ffitrwydd i yrru.
Cadwch eich taflen wybodaeth
Os oes taflenni gwybodaeth ar gael am eich cyflwr, llwythwch nhw oddi ar y we, eu darllen yn fanwl a'u cadw er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol. Os yw'r daflen yn awgrymu bod angen gwneud ymholiadau meddygol, llwythwch yr holiadur meddygol priodol oddi ar y we a'i lenwi fel y nodir.
Diabetes
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- diabetes a gaiff ei drin gan dabledi, deiet neu'r ddau
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- diabetes a reolir gan inswlin
Cyflyrau ar y galon
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- trawiad ar y galon (syndrom coronaidd aciwt gan gynnwys cnawdnychiant myocardaidd)
- llawdriniaeth dargyfeirio'r rhydwelïau coronaidd (CABG)
- angioplasti coronaidd (a elwir hefyd yn ymyriad coronaidd drwy'r croen)
- afiechyd/llawdriniaeth ar falfiau’r galon
- angina
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- rheolydd y galon dan y croen
- rhythm aflonydd yn y galon sy'n achosi penysgafndod, llewyg neu i berson fynd yn anymwybodol
- unrhyw gyflwr arall ar y galon
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- diffibriliwr (ICD) dan y croen
Cyflyrau niwrolegol
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- strôc
- strôc fach
- thrombosis cerebrol
- amaurosis fugax
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- llawdriniaeth ar yr ymennydd, tiwmor ar yr ymennydd, niwed difrifol i’r pen
- problemau difrifol gyda’r cof neu ddryswch
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- cyflyrau niwrolegol cronig (e.e. sglerosis ymledol, clefyd niwronau motor)
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- epilepsi, ffitiau neu flacowts
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- penysgafn difrifol a rheolaidd
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- anhwylderau cysgu neu gyflyrau sy’n golygu eich bod yn teimlo’n gysglyd iawn yn ystod y dydd neu pan fyddwch ar ddi-hun
- syndrom apnoea cwsg
- narcolepsi neu cataplecsi
- unrhyw gyflwr arall sy’n golygu eich bod yn teimlo’n gysglyd iawn yn ystod y dydd neu pan fyddwch ar ddi-hun
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar y ddau lygad (ac eithrio golwg byr, golwg hir neu ddallineb lliw)
- os mai dim ond ag un llygad yr ydych yn gweld, unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar honno (ac eithrio golwg byr, golwg hir neu ddallineb lliw)
Alcohol a chyffuriau
Os ydych chi wedi'ch gwahardd am rai troseddau'n ymwneud ag alcohol, bydd DVLA yn cynnal ymholiadau meddygol cyn y gellir adnewyddu'ch trwydded yrru.
Dyma'r troseddau hyn:
- wedi'ch gwahardd gyda lefel alcohol uwch na: 200mg mewn 100ml o waed; neu 87.5mg mewn 100ml o anadl; neu 267.5mg mewn 100ml o wrin
- wedi'ch gwahardd ddwywaith mewn 10 mlynedd am droseddau penodol yn ymwneud ag alcohol
- wedi'ch gwahardd am fethu â rhoi sampl neu wrthod rhoi sampl (gwaed, anadl neu wrin) i'w brofi
Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen wybodaeth isod.
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- dibyniaeth ar alcohol neu ei gamddefnyddio yn y tair blynedd diwethaf
Ar gyfer y cyflwr canlynol:
- dibyniaeth ar gyffuriau neu eu camddefnyddio yn y tair blynedd diwethaf
Cyflyrau seiciatrig
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- unrhyw gyflwr iechyd meddwl (gan gynnwys iselder)
- unrhyw salwch seiciatrig sy’n golygu ei bod yn rhaid i chi fynd i’r ysbyty
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- alzheimer, nam gwybyddol, demensia, problemau gyda'r cof
Anafiadau i'r cefn
Ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- anafiadau difrifol i'r cefn
- paraplegia
- tetraplegia
Sut i ildio'ch trwydded yrru ac ailddechrau gyrru'n ddiweddarach
Ildio eich trwydded yrru a'r amodau ar gyfer gwneud cais eto.