Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Os ydych chi'n gwneud cais am drwydded cerbyd nwyddau mawr neu gerbyd cludo teithwyr, neu os oes gennych chi un eisoes (grŵp dau)

Gallwch lwytho'r daflen wybodaeth neu'r holiadur meddygol priodol oddi ar y we er mwyn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich cyflwr meddygol neu eich anabledd. Mae'r holiaduron yn cynnwys ffurflen ganiatâd y mae'n rhaid ei llofnodi, a fydd yn gadael i DVLA wneud ymholiadau meddygol ynghylch eich ffitrwydd i yrru.

Cyflyrau niwrolegol

  • epilepsi
  • ffitiau neu flacowts
  • penysgafndod difrifol sy'n amharu arnoch ac yn dod yn ôl yn gyson
  • narcolepsi neu cataplecsi
  • unrhyw gyflwr niwrolegol cronig (e.e. parlys ymledol, clefyd niwronau motor)
  • strociau mawr neu bach
  • llawdriniaeth ar yr ymennydd, tiwmor ar yr ymennydd, niwed difrifol i’r pen
  • problemau gyda'r cof

Ar gyfer y cyflyrau canlynol:

unrhyw gyflwr niwrolegol cronig (e.e. parlys ymledol, clefyd niwronau motor)

Cyflyrau seiciatrig

  • unrhyw gyflwr iechyd meddwl (gan gynnwys iselder)
  • unrhyw salwch seiciatrig sy'n golygu bod rhaid i chi fynd i'r ysbyty

Alcohol a chyffuriau

  • dibyniaeth ar gyffuriau neu eu camddefnyddio yn y tair blynedd diwethaf
  • dibyniaeth ar gyffuriau neu eu camddefnyddio yn y tair blynedd diwethaf

Problemau gyda'r golwg

  • golwg mewn un llygad yn unig
  • problemau golwg sy'n effeithio ar y naill lygad neu'r llall

Diabetes

  • diabetes a reolir gan ddiet
  • diabetes a reolir gan dabledi
  • diabetes a reolir gan inswlin

Cyflyrau ar y galon

  • unrhyw gyflwr ar y galon heblaw am furmuron diniwed yn y galon
  • clefyd perifferol yn eich rhydwelïau yn achosi symptomau e.e. cloffni ysbeidiol
  • ymlediad aortig abdomenol

Anhwylderau cysgu

  • syndrom apnoea cwsg
  • narcolepsi neu cataplecsi
  • unrhyw gyflwr arall sy'n golygu eich bod yn teimlo'n gysglyd iawn yn ystod y dydd neu pan fyddwch ar ddihun

Anafiadau i'r cefn

  • anafiadau difrifol i'r cefn
  • paraplegia
  • tetraplegia

Canser, tiwmor a chyflyrau meddygol eraill

  • rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi cael triniaeth am y mathau canlynol o ganser neu diwmorau yn y pum mlynedd diwethaf: Ysgyfaint, melanoma, non-hodgkins lymphoma
  • AIDS
  • unrhyw gyflwr meddygol arall sy'n debygol o effeithio ar eich gallu i reoli cerbyd yn ddiogel e.e. aelod o'r corff wedi'i dorri i ffwrdd, nam dan reolaeth meddyginiaeth, salwch cronig sy'n eich gwanychu
  • problemau ymddygiad e.e. syndrom asperger
  • methiant arennol difrifol

Meddygon

Mae gwybodaeth fanylach am yrru a’r cyflyrau uchod ar gael yn y ‘Canllaw cyflym i feddygon’. Gellir dod o hyd i’r ffurflen am ‘adroddiad ymchwiliad meddygol’ (D4) isod.

Sut i ildio'ch trwydded yrru ac ailddechrau gyrru'n ddiweddarach

Ildio eich trwydded yrru a'r cyflyrau ar gyfer ailgeisio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU