Gyrwyr modur neu feic modur sy’n dioddef o ddiabetes sy’n cael ei drin â thabledi, deiet neu’r ddau
Rôl Grŵp Meddygol y Gyrwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw hybu diogelwch ar y ffordd trwy gadarnhau a yw gyrwyr sydd â chyflyrau meddygol yn gallu bodloni’r safonau meddygol gofynnol ar gyfer gyrru’n ddiogel.
Nid oes angen i yrwyr roi gwybod i’r DVLA os yw eu diabetes yn cael ei drin â thabledi, deiet neu’r ddau a hwythau’n rhydd o’r cymhlethdodau a restrir isod.
Mae rhai pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn datblygu problemau cysylltiedig a all effeithio ar eu gyrru.
Yr hyn y mae angen ichi roi gwybod inni amdano
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid ichi roi gwybod inni os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae arnoch angen triniaeth ag inswlin
- mae arnoch angen triniaeth laser i’r ddau lygad neu i’r un llygad os mai trwy un llygad yn unig rydych yn gweld
- mae gennych broblemau â golwg yn y ddau lygad neu yn yr un llygad os mai trwy un llygad yn unig rydych yn gweld. (Mae’n ofynnol dan y gyfraith eich bod yn gallu darllen plât rhif car, gan ddefnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd lle bo angen, mewn golau da o bellter o 20.5 metr (67 troedfedd) neu 20 metr (65 troedfedd) lle defnyddir llythrennau culach (50mm o led))
- rydych yn datblygu unrhyw broblemau â chylchrediad, neu’r teimlad yn eich coesau neu’ch traed, sy'n golygu bod angen ichi yrru mathau arbennig o gerbydau’n unig, er enghraifft cerbydau awtomatig, neu gerbydau â sbardun neu frêc a reolir â llaw. Mae’n rhaid dangos hyn ar eich trwydded yrru
- rydych yn dioddef mwy nag un pwl o hypoglycaemia (lefel isel o siwgr yn y gwaed) sy’n eich anablu mewn cyfnod o 12 mis, neu rydych chi neu’ch gofalwr o’r farn bod risg uchel y byddwch yn datblygu hypoglycaemia sy’n eich anablu
- rydych yn datblygu cyflwr sy’n amharu ar eich ymwybyddiaeth o hypoglycaemia
- rydych yn dioddef pwl o hypoglycaemia sy’n eich anablu wrth y llyw
- mae cyflwr meddygol sydd eisoes gennych yn gwaethygu, neu rydych yn datblygu unrhyw gyflwr arall a all effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel
Er mwyn diogelwch ar y ffordd, mae’n rhaid ichi fod yn siŵr eich bod yn gallu bod â rheolaeth ddiogel ar gerbyd modur bob amser.
Sut i roi gwybod inni
Os yw’ch meddyg, eich arbenigwr neu’ch optegydd yn dweud wrthych am roi gwybod inni am eich cyflwr, mae angen ichi lenwi holiadur meddygol DIAB1 am ddiabetes.
Canllaw i yrru
Mae croeso ichi lawrlwytho copi o’r wybodaeth hon i gyfeirio ati yn y dyfodol; mae ar gael ar ffurf taflen isod.
Ildio eich trwydded
Os cawsoch eich cynghori gan eich meddyg i beidio â gyrru efallai yr hoffech ildio'ch trwydded yn wirfoddol a gwneud cais am ei chael yn ôl yn y dyfodol pan fydd eich meddyg(on) yn eich cefnogi