Rôl Grŵp Meddygol y Gyrwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw hyrwyddo diogelwch ar y ffordd drwy bennu a all gyrwyr gyda chyflyrau meddygol fodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru’n ddiogel. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau does dim rhaid rhoi gwybod i'r DVLA fel mater o drefn.
Mae'r wybodaeth isod ar gyfer gyrwyr sy'n dal trwydded yrru ar gyfer car, moped neu feic modur (grŵp un) a all fod â chyflwr ar eu calon.
Cyflyrau ar y galon yn cynnwys:
Does dim rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA am y cyflyrau hyn; fodd bynnag, dylech ddilyn y cyfarwyddyd canlynol a cheisio caniatâd eich meddyg i ailddechrau gyrru, pan fydd yr amser gofynnol heb yrru wedi dod i ben.
Dylid peidio â gyrru am o leiaf un mis ar ôl digwyddiad o'r fath.
Dylid peidio â gyrru am o leiaf un wythnos ar ôl y weithred hon.
AnginaGallwch barhau i yrru os ydych yn dioddef o angina (os oes angen meddyginiaeth arnoch ai peidio) oni bai ei fod yn digwydd wrth i chi yrru neu gydag emosiwn. Os ydyw, rhaid i chi beidio â gyrru, a pheidio ailddechrau nes y gallwch reoli'r symptomau mewn modd boddhaol.
Os cawsoch eich cynghori gan eich meddyg i beidio â gyrru efallai yr hoffech ildio'ch trwydded yn wirfoddol a gwneud cais am ei chael yn ôl yn y dyfodol pan fydd eich meddyg(on) yn eich cefnogi.
Os cawsoch eich cynghori gan eich meddyg i beidio â gyrru efallai yr hoffech ildio'ch trwydded yn wirfoddol a gwneud cais am ei chael yn ôl yn y dyfodol pan fydd eich meddyg(on) yn eich cefnogi.