Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw i yrwyr yn dilyn strôc, TIA, strociau bach, thrombosis cerebrol neu amaurosis fugax

Rôl Grŵp Meddygol y Gyrwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw hyrwyddo diogelwch ar y ffordd drwy bennu a all gyrwyr gyda chyflyrau meddygol fodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru’n ddiogel. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau does dim rhaid hysbysu DVLA fel mater o drefn.

Os ydych yn dal trwydded yrru ar gyfer car, moped neu feic modur (grŵp un), does dim rhaid i chi roi gwybod i DVLA os ydych wedi cael un strôc, strôc fechan, TIA (lle nad yw'r symptomau wedi para'n fwy na mis), thrombosis cerebrol neu amaurosis fugax. Fodd bynnag, bydd angen cynnal ymholiadau meddygol os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:

1. mis ar ôl y strôc mae symptomau'n parhau sy’n achosi gwendid yn yr aelodau neu’n amharu ar y golwg, neu sy'n achosi problemau gyda chydsymud, y cof neu ddealltwriaeth

2. ymosodiadau epileptig o unrhyw fath wedi digwydd, ar wahân i'r rhai a ddigwyddodd o fewn 24 awr i'r strôc

3. bu rhaid cael llawdriniaeth ar yr ymennydd fel rhan o'r driniaeth ar gyfer y strôc

4. os cafwyd mwy nag un strôc o fewn y tri mis diwethaf

5. bod eich meddygon wedi mynegi pryder am eich ffitrwydd i yrru

6. mae gennych drwyddedau LGV neu PCV cyfredol

Efallai na fydd anabledd parhaus ar un o aelodau'r corff ar ôl strôc yn eich atal rhag dal trwydded yrru. Trwy wneud addasiadau i gerbyd a/neu gael eich cyfyngu i gerbydau awtomatig, efallai y gallwch oresgyn anawsterau gyrru hyd yn oed pan fo gennych anableddau eithaf cymhleth.

Dan y gyfraith, rhaid nodi ar y drwydded unrhyw addasiadau i gerbyd neu os cyfyngir person i rai mathau o gerbyd. Felly, bydd angen i chi ddweud wrth DVLA os oes angen gwneud addasiadau. Er budd diogelwch ar y ffordd mae’n rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn gallu rheoli cerbyd modur yn ddiogel bob amser. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw unrhyw un o’r pwyntiau o un i chwech yn berthnasol i'ch achos chi, dylech drafod y mater gyda'ch meddyg(on). Os oes unrhyw un o'r amgylchiadau ym mhwyntiau un i chwech yn berthnasol i'ch achos chi, bydd angen i chi gysylltu â DVLA.

Mwy o wybodaeth

Os yw'r wybodaeth uchod yn dangos bod angen i chi hysbysu DVLA am eich cyflwr, gallwch wneud hynny drwy argraffu a llenwi holiadur meddygol B1.

Neu, fel arall, os yw'r wybodaeth uchod yn dangos nad oes angen i chi hysbysu DVLA am eich cyflwr, yna llwythwch ac argraffwch y daflen wybodaeth 'Canllaw i yrru cerbydau cyffredin (grŵp un)'. Dylid darllen y daflen hon a'i chadw mewn lle diogel er mwyn gallu cyfeirio ati yn y dyfodol.

Os cawsoch eich cynghori gan eich meddyg i beidio â gyrru efallai yr hoffech ildio'ch trwydded yn wirfoddol a gwneud cais am ei chael yn ôl yn y dyfodol pan fydd eich meddyg(on) yn eich cefnogi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU