Rôl Grŵp Meddygol y Gyrwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw hyrwyddo diogelwch ar y ffordd drwy bennu a all gyrwyr gyda chyflyrau meddygol fodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru’n ddiogel. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau does dim rhaid hysbysu DVLA fel mater o drefn.
Os ydych yn dal trwydded yrru ar gyfer car, moped neu feic modur (grŵp un) efallai na fydd yn rhaid i chi hysbysu DVLA os oes gennych gyflwr sy'n effeithio ar un llygad yn unig neu os ydych yn gweld gydag un llygad yn unig. Os bydd cyflwr eich golwg yn gwaethygu a’ch bod yn methu â darllen plât rhif neu os byddwch yn colli unrhyw ran o’ch maes golwg mae’n rhaid i chi ysgrifennu at DVLA i ddweud hynny. Er budd diogelwch ar y ffordd mae’n rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn gallu rheoli cerbyd modur yn ddiogel bob amser.
Os mai golwg mewn un llygad yn unig sydd gennych, efallai y byddwch yn dal i allu bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru a nodir isod. Gall gymryd hyd dri mis i chi addasu'n ddiogel i yrru gydag un llygad, ac felly rhaid i chi fod yn barod am hynny. Yn neilltuol, efallai yr effeithir ar eich gallu i farnu pellteroedd yn gywir ac efallai na fyddwch mor ymwybodol o bethau y naill ochr i chi.
Os oes gennych gyflwr meddygol sy’n effeithio ar un llygad yn unig ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn dal i allu bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru a nodir isod.
Os ydych wedi cael llawdriniaeth i dynnu cataractau, dylech wybod bod yn rhaid i’ch golwg ar ôl y llawdriniaeth fodloni’r safon ofynnol a nodir isod er mwyn i chi allu parhau i yrru.
Rhaid i chi allu darllen plât rhif safonol (gyda sbectol neu lensys cywiro os oes eu hangen arnoch) o bellter o 20.5 metr (67 troedfedd) neu 20 metr (65 troedfedd) ble defnyddir llythrennau/rhifau culach (50mm o led). Mae hyn yn ofyniad dan y gyfraith ac mae unrhyw un nad yw'n gallu gwneud hyn tra'i fod yn gyrru ar ffordd gyhoeddus yn euog o drosedd. Mae’n bosib i chi wneud y 'prawf plât rhif' eich hun er mwyn i chi allu sicrhau’n gyson bod eich golwg yn iawn. Dylech wybod hefyd y gall yr heddlu, os ydynt yn amau bod gyrrwr yn gyrru â'i olwg yn ddiffygiol, ofyn i’r gyrrwr gymryd 'prawf plât rhif'. Gall methu'r prawf arwain at erlyn y person.
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod eich maes golwg yn ddigon da. Mae safon y maes golwg yn nodi bod yn rhaid i chi allu gweld maes golwg o led penodol heb ddiffygion sylweddol yn yr ardal ganolog sensitif. Os ydych wedi colli'ch golwg yn llwyr mewn un llygad ni ddylid cael unrhyw nam ym maes golwg y llygad arall. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich gallu i gyflawni’r gofynion, bydd eich Meddyg Teulu, eich optegydd neu eich arbenigwr llygaid yn gallu’ch cynghori.
Os yw'r wybodaeth uchod yn dangos bod angen i chi hysbysu DVLA am eich cyflwr, gallwch wneud hynny drwy argraffu a llenwi holiadur meddygol V1.
Fel arall, os ydych chi'n bodloni'r holl ofynion a nodir uchod, does dim rhaid hysbysu DVLA. Argraffwch y daflen wybodaeth, 'Canllaw i safonau golwg a gyrru cerbydau cyffredin (grŵp un)'.
Os cawsoch eich cynghori gan eich meddyg i beidio â gyrru efallai yr hoffech ildio'ch trwydded yn wirfoddol a gwneud cais am ei chael yn ôl yn y dyfodol pan fydd eich meddyg(on) yn eich cefnogi.