Mae'r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru ar gael i bob meddyg eu gweld. Efallai bod eich meddyg eich hun wedi'ch cynghori i beidio gyrru, yn unol â'r safonau hyn.
Os yw'ch meddyg wedi'ch cynghori i beidio gyrru, fe allwch chi ildio'ch trwydded yrru i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Drwy ildio'ch trwydded, ni fydd angen i'r DVLA wneud ymholiadau meddygol ffurfiol am eich ffitrwydd i yrru. Os oes rhaid i ni wneud ymholiadau meddygol a bod y rhain yn cadarnhau nad ydych yn gallu bodloni'r safonau meddygol angenrheidiol ar addasrwydd i yrru, yna bydd rhaid diddymu eich trwydded. Os ydych chi'n dymuno ildio'ch trwydded yrru, fe allwch chi lwytho a llenwi'r datganiad canlynol (fformat PDF).
Os ydych chi am ildio'n wirfoddol eich hawl i yrru lori neu fws, neu am ddiddymu'r hawl hon at bwrpas yswiriant, bydd angen ffurflen VOC99 arnoch. Gellir llwytho'r ffurflen hon o'r ddolen isod:
Yna, ar ôl i chi ei llenwi, fe allwch ddychwelyd y ddogfen atom drwy'r post, y ffacs neu'r e-bost. Os dewiswch chi anfon yr holiadur dros yr e-bost, cofiwch nad yw hyn yn gyfrwng cyfathrebu diogel, ac nid yw DVLA yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eich neges e-bost tan ar ôl iddi ei dderbyn. Fe allwch chi bostio, ffacsio ac e-bostio eich dogfennau i'r cyfeiriad a'r rhifau isod:
Grŵp Meddygol y Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU
Ffacs: 0845 850 0095
Email: eftd@dvla.gsi.gov.uk
Os byddwch yn gwneud cais i gael eich trwydded yrru yn ôl yn y dyfodol ar ôl ei hildio, bydd angen gwneud ymholiadau meddygol. Fodd bynnag, yn ystod yr ymholiadau hyn, mae'r gyfraith yn rhoi hawl i chi yrru dan Adran 88 Deddf Traffig Ffyrdd 1988. Golyga hyn y gallwch ailddechrau gyrru unwaith y derbynnir eich cais gan y DVLA (ar ôl ildio'n wirfoddol), ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf canlynol:
"Canllaw cyflym i'r safonau meddygol presennol ar gyfer bod yn ffit i yrru". Gall pob meddyg gael gafael ar gopi o'r cyhoeddiad hwn, ac felly os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich gallu i fodloni'r safonau, dylech gysylltu â'ch meddyg cyn i chi ailddechrau gyrru