Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i hysbysu DVLA am gyflwr meddygol

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os ydych chi erioed wedi dioddef, neu'n dioddef ar hyn o bryd, o gyflwr meddygol neu anabledd a allai amharu ar eich gyrru. Bydd angen i chi hefyd ddarparu manylion os byddwch yn datblygu cyflwr neu anabledd newydd, neu os yw un ohonynt wedi gwaethygu ers i chi gael eich trwydded.

Mae peidio â rhoi gwybod i'r DVLA yn drosedd ac fe ellid eich cosbi gyda dirwy o hyd at £1000.

Ildio eich trwydded yrru

Mae'r safonau ffitrwydd meddygol ar gyfer gyrru ar gael i bob ymarferydd meddygol. Os yw eich meddyg, yn unol â'r safonau hyn, wedi'ch cynghori i beidio â gyrru efallai y byddwch yn dymuno ildio'ch trwydded. Gallwch gwneud cais am ei hadfer yn nes ymlaen. Gallai ildio'ch trwydded fod yn fanteisiol, os byddwch neu pan fyddwch yn penderfynu ailymgeisio.

Sut i roi gwybod i DVLA os ydych yn gwneud cais am drwydded yrru neu os oes gennych un eisoes

Mae pob ffurflen gais ar gyfer cael trwydded yrru yn cynnwys cyfres o gwestiynau'n ymwneud ag iechyd. Rhaid i chi lenwi'r rhain wrth roi gwybod i DVLA am y cyflwr meddygol neu'r anabledd sydd gennych. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno llwytho a llenwi'r holiadur(on) meddygol perthnasol a'u cynnwys gyda'ch cais. Bydd hyn yn cyflymu'r gwaith o brosesu'ch trwydded yrru pan fydd DVLA yn derbyn y dogfennau.

Os oes gennych drwydded yrru eisoes a bod angen i chi ddweud wrth DVLA am gyflwr meddygol neu anabledd sydd gennych, rhaid i chi ddweud wrthynt yn syth a pheidio ag aros nes ei bod yn amser adnewyddu'ch trwydded.

Gellir llwytho holiaduron meddygol ar gyfer hysbysu, a thaflenni gwybodaeth priodol eraill o'r dolenni isod.

Rheolau ychwanegol ar gyfer ceisiadau i yrru cerbydau mwy sydd dros 3,500kg, bysiau mini (rhwng 9 ac 16 o seddau) a bysiau

Bydd angen dychwelyd adroddiad meddygol D4 wedi'i lenwi gan ymarferydd meddygol i DVLA gyda'ch cais.

  • rydych yn gwneud cais i yrru cerbydau mwy sydd dros 3,500kg, bysiau mini (rhwng 9 ac 16 o seddau) a bysiau am y tro cyntaf
  • mae gennych chi drwydded car ac rydych yn gwneud cais i adnewyddu categori C1 ac/neu D1
  • rydych chi'n adnewyddu eich hawl i yrru cerbyd nwyddau mawr (LGV) neu gerbyd cludo teithwyr (PCV) ar eich pen-blwydd yn 45 oed neu wedi hynny, a phob 5 mlynedd ar ôl hynny, tan eich pen-blwydd yn 65 (os ydych rhwng 45 a 65 oed ac wedi derbyn trwydded feddygol cyfnod byr, yna dim ond os nad ydych wedi anfon ffurflen D4 atom yn y 5 mlynedd diwethaf y bydd rhaid i chi ei hanfon atom)
  • rydych chi'n adnewyddu eich hawl i yrru LGV ac/neu PCV ar eich pen-blwydd yn 65 oed neu wedi hynny a bob blwyddyn ar ôl hynny

Dim ond pan fydd y drwydded yn cael ei hadnewyddu'r tro nesaf y bydd rhaid bodloni’r safonau meddygol uwch os yw gyrwyr eisoes â’r hawl i yrru cerbydau categori C1 ac/neu D1 ac wedi pasio prawf gyrru car cyn 1 Ionawr 1997.

Sut i gysylltu â DVLA

Gallwch ddychwelyd eich dogfennau neu gysylltu â DVLA yn y ffyrdd canlynol:

Trwy'r post

Gallwch anfon eich dogfennau i DVLA yn y cyfeiriad canlynol:

Grŵp Meddygol y Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU

Gyda ffacs neu e-bost

Gallwch gysylltu â DVLA ynghylch cyflwr meddygol drwy ffacs neu e-bost.

Bydd DVLA yn trin y gwybodaeth yr ydych yn danfon yn gwbl gyfrinachol. Er hynny, gan nad yw diogelwch y rhyngrwyd yn gallu cael ei gwarantu, ni fydd DVLA yn gallu anfon ebyst sy’n cynnwys gwybodoaeth bersonol ac yn cynghori eich bod hefyd yn dilyn y bolisi hyn.

Os ydych yn pryderu ynghylch anfon ebyst, defnyddiwch ddull arall o gyswllt e.e ffôn neu’r post.

Bydd angen i chi gadarnhau yn eich cyfathrebiad os ydych yn dymuno cael ateb yn ôl i’r rhif ffacs neu’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd, neu bydd ateb yn cael ei anfon drwy’r post.

Pwynt cyswllt: Grŵp Meddygol y Gyrwyr

Ffacs: 0845 850 0095

E-bost:eftd@dvla.gsi.gov.uk

Dros y ffôn

Fe allwch chi hefyd roi gwybod i DVLA ynghylch cyflwr meddygol dros y ffôn. Cofiwch nodi eich enw llawn, eich dyddiad geni ac/neu eich rhif gyrrwr (os ydych yn ei wybod). Rhaid i chi hefyd roi manylion am eich cyflwr meddygol neu'ch anabledd penodol er mwyn i ni anfon yr holiadur meddygol perthnasol atoch.

Rhif ffôn: 0870 600 0301

(Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 5.30pm a dydd Sadwrn rhwng 8.00am a 1.00pm)

Gwybodaeth ychwanegol

Gallwch hefyd lwytho’r canllaw gwasanaeth cwsmeriaid i gadw am gyfeirnod yn y dyfodol os fyddwch ei hangen.

Allweddumynediad llywodraeth y DU