Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi roi gwybod i'r DVLA am eich cyflwr meddygol

Ar ôl i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghylch cyflwr meddygol neu anabledd, bydd ymghynghorwyr meddygol y DVLA yn penderfynu a ydych chi'n bodloni'r canllawiau meddygol cenedlaethol a gofynion y gyfraith. Caiff trwydded ei rhoi, ei diddymu neu ei gwrthod ar sail hynny.

Sut i roi gwybod i'r DVLA ynghylch cyflwr meddygol neu anabledd

Mae'r holiadur meddygol y byddwch yn ei ddefnyddio i roi gwybod i'r DVLA yn eich galluogi i ddarparu manylion penodol am eich cyflwr meddygol neu eich anabledd. Mae'r holiadur hefyd yn eich galluogi i roi caniatâd i ymgynghorwyr meddygol y DVLA holi am wybodaeth amdanoch gan eich meddyg os bydd angen. Os yw hynny'n bosibl, y DVLA fydd yn gwneud y penderfyniad ynghylch eich trwydded yrru. Fodd bynnag, os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt, yna mae'n bosibl y bydd yr ymgynghorwyr meddygol:

  • yn cysylltu â'ch meddyg neu'ch ymgynghorydd chi
  • yn trefnu eich bod yn cael archwiliad gan swyddog meddygol a benodir yn lleol neu gan ymgynghorydd neu arbenigwr lleol
  • yn gofyn i chi gael asesiad gyrru, prawf llygaid neu brawf gyrru

Pa mor hir y bydd ymholiadau meddygol yn para

Mae'r DVLA yn ceisio cwblhau eu hymholiadau cyn gynted â phosibl. Bydd yr amser y byddant yn ei dreulio ar eich achos penodol chi yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gennych ac ar y wybodaeth y mae'n rhaid iddynt ei chasglu. Os gall y DVLA wneud penderfyniad wedi'i seilio ar y wybodaeth a roesoch chi yn y lle cyntaf, byddant yn ceisio gwneud penderfyniad am 88 canran o achosion o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt am eich cyflwr meddygol, naill ai gennych chi, eich meddyg neu o ffynonellau eraill, neu os ydych yn gwneud cais am drwydded lori neu fws, maent yn ceisio penderfynu ar 85 canran o achosion o fewn 90 diwrnod gwaith.

Y penderfyniad y gellir ei wneud ynghylch eich trwydded yrru

Unwaith y bydd yr ymgynghorwyr meddygol yn fodlon bod yr holl wybodaeth feddygol berthnasol ar gael a'u bod yn gallu cwblhau eu hymchwiliadau, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch eich trwydded yrru yn unol â’r safonau meddygol o ffitrwydd i yrru. Dyma'r gwahanol benderfyniadau posibl:

  • efallai y cewch gadw eich trwydded neu y rhoddir trwydded yrru newydd i chi
  • efallai y rhoddir trwydded yrru i chi am gyfnod o flwyddyn, am ddwy flynedd neu am dair blynedd os yw'r ymgynghorydd meddygol yn penderfynu y bydd angen adolygu eich ffitrwydd meddygol yn y dyfodol
  • efallai y rhoddir trwydded yrru i chi sy'n nodi bod angen gosod teclynnau rheoli arbennig ar y cerbydau yr ydych yn eu gyrru i'ch galluogi i oresgyn effeithiau anabledd corfforol
  • efallai y caiff eich trwydded ei diddymu neu y gwrthodir eich cais. Dim ond os bydd ein hymholiadau yn cadarnhau nad ydych yn bodloni'r safonau meddygol angenrheidiol i yrru o ganlyniad i'ch cyflwr meddygol y bydd y DVLA yn gwneud hyn

Os caiff eich trwydded yrru ei diddymu neu ei gwrthod gan ymgynghorydd meddygol yn y DVLA:

  • fe gewch esboniad meddygol sy'n egluro pam y daethpwyd i'r penderfyniad hwn. Os yw hynny'n bosibl, bydd y DVLA yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd modd i chi wneud cais arall am drwydded
  • byddwch yn derbyn nodyn a fydd yn egluro'ch hawl i apelio i Lys Ynadon os ydych chi'n byw yng Nghymru neu yn Lloegr, neu i Lys y Siryf os ydych chi'n byw yn yr Alban

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU