Mae'n bwysig eich bod yn rhoi MOT ar eich gwaith papur yn rheolaidd - yr un mor bwysig â gofalu fod pwysedd yr awyr yn eich teiars yn gywir. Bob tro y bydd eich enw, cyfeiriad neu fanylion eraill yn newid, fe allwch chi wneud cais am ddiweddaru eich Tystysgrif Cofrestru Cerbyd a Thrwydded Yrru yn rhad ac am ddim.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) pan fyddwch chi'n newid eich enw a/neu'ch cyfeiriad. Gallai methu â rhoi gwybod i'r DVLA arwain at ddirwy o £1000.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'r DVLA am newidiadau i'ch enw, cyfeiriad neu fanylion eich cerbyd. Defnyddir cofnodion y DVLA er mwyn gorfodi'r gyfraith a dod o hyd i bobl sy'n osgoi talu treth ar eu cerbydau, yn dympio ac yn dwyn ceir ac yn cyflawni troseddau tebyg.
Defnyddir ein cofnodion i roi gwybod i chi os oes angen ad-alw eich cerbyd ac i gysylltu â'ch teulu os cewch chi ddamwain.
I roi gwybod i'r DVLA ynghylch newid enw, cyfeiriad neu fanylion cerbyd, fe allwch chi ddefnyddio eich Trwydded Yrru, eich Dogfen Cofrestru Cerbyd (V5) neu'ch Tystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C).
Os oes unrhyw rai o'ch dogfennau ar goll, wedi'u dwyn neu eu dinistrio, bydd angen i chi wneud cais am drwydded ddyblyg a thalu'r ffi briodol.
Os oes angen unrhyw ffurflenni arnoch chi i roi gwybod i'r DVLA am newidiadau, gellir eu cael yn y rhan fwyaf o ganghennau Swyddfa'r Post®. Fe allwch chi hefyd archebu'r pecyn cais am Drwydded Yrru D1 gan wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA neu gais V62 am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd drwy ddilyn y dolenni isod.