Os byddwch chi'n gwneud cais am drwydded yrru cerdyn-llun ac nad ydych chi am anfon eich gwybodaeth bersonol drwy'r post at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu defnyddio'r gwasanaethau gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post® neu Swyddfeydd DVLA Lleol.
Nid yw’r gwasanaeth hyn ar gael am geisiadau ar-lein
Fe allwch chi wneud cais am eich trwydded drwy fynd eich hun i Swyddfa'r Post® gyda'ch cais, dogfennau adnabod, ffotograff ac unrhyw ffi sy'n ofynnol. Bydd staff Swyddfa'r Post® yn gwirio'ch cais tra'ch bod yn disgwyl, yn rhoi eich dogfennau adnabod yn ôl i chi ac yna'n anfon y cais i DVLA.
Dyma'r dogfennau sydd eu hangen ac sy'n cael eu derbyn gan ganghennau Swyddfa'r Post®:
Rhaid i’ch dogfennau adnabod bod yn eich enw cyfredol. Ni ellir ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn newid eich enw.
Cost y gwasanaeth gwirio premiwm yw £4 ac mae'n ychwanegol i ffi'r drwydded.
Mae pob Swyddfa DVLA Leol yn darparu’r un gwasanaeth gwirio premiwm, at yr un cost, â rhai canghennau Swyddfa’r Post® ac maent ar agor rhwng 9.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw'r swyddfeydd lleol yn derbyn taliadau drwy gardiau credyd ac mae DVLA yn mynnu'r hawl i alw dogfennau adnabod gwreiddiol yn ôl.
Os oes gennych drwydded yrru lawn y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop (GE/AAE), Gibraltar neu Wlad Ddynodedig, cewch ei chyfnewid am drwydded gyfatebol Prydain neu fe allwch ddefnyddio gwasanaeth gwirio cyfatebol yn rhai o'r Swyddfeydd DVLA Lleol. Y swyddfeydd sy'n cynnig y gwasanaeth hwn yw Wimbledon, Nottingham, Glasgow a'r dderbynfa yn DVLA yn Abertawe.
Dylech chi allu defnyddio'r gwasanaeth hwn ar yr amod fod gennych chi basport cyfredol o un o'r gwledydd sydd i'w dangos ar y drwydded, a'ch bod:
Bydd staff yn gofalu fod eich cais mewn trefn ac wedi'i lenwi'n gywir. Unwaith y bydd hynny wedi'i wneud, bydd eich cais a'ch trwydded yn cael eu hanfon i DVLA i'w prosesu. Bydd eich pasport yn cael ei ddychwelyd yn y fan a'r lle.