Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar unwaith am unrhyw newidiadau i'ch enw, eich cyfeiriad neu'r ddau. Gallwch ddiweddaru'ch trwydded yrru ar-lein neu ei hanfon i DVLA i'w newid. Rhoddir trwydded newydd am ddim i chi onid yw'n amser adnewyddu'ch llun.
Bydd rhoi gwybod i'r DVLA am newid yn eich manylion yn sicrhau bod eich cofnod yn cynnwys eich manylion diweddaraf ac y bydd yr holl lythyrau atgoffa a anfonir atoch yn y dyfodol ynghylch eich trwydded yrru yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad cywir.
Cofiwch, os ydych yn symud i wlad arall yn barhaol, ni chewch gofrestru'ch cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdod sy'n rhoi trwyddedau gyrru yn y wlad y byddwch yn preswylio ynddi.
Gallwch newid eich cyfeiriad ar-lein, ond, os bydd arnoch angen newid eich enw neu'ch enw a'ch cyfeiriad bydd angen i chi anfon eich trwydded yrru at DVLA i'w newid.
Pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad bydd angen i chi wneud y canlynol:
Pan fyddwch yn newid eich enw, p'un a ydych yn newid cyfeiriad neu beidio, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os oes angen i chi adnewyddu eich llun
Gallwch adnewyddu eich llun unrhyw adeg, fodd bynnag, os yw oes eich llun yn dod i ben o fewn y ddeufis nesaf bydd angen ei adnewyddu ar unwaith. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.
Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein.
Pan fyddwch chi'n newid eich enw neu'ch cyfeiriad (neu'r ddau) bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os ydych wedi colli'ch trwydded yrru, neu os nad oes gennych un rhan, neu ddwy ran, eich trwydded yrru cerdyn-llun, bydd angen i chi wneud cais am drwydded arall i gymryd ei lle, a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yr un pryd..
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru newydd o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.
Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded fydd y llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.
Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:
Cofiwch y bydd angen i chi hefyd o bosib newid eich enw a'ch cyfeiriad ar eich Tystysgrif Cofrestru.
Gallwch roi gwybod i DVLA am newid enw a chyfeiriad pan rydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru. Bydd angen i chi ysgrifennu at DVLA, Abertawe, SA99 1AB yn rhoi manylion eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os ydych yn gwybod beth ydyw) a'ch dyddiad geni.
Bydd eich cofnod gyrrwr yn cael ei ddiweddaru, a 56 diwrnod cyn i'ch gwaharddiad ddod i ben cewch ffurflen adnewyddu trwydded yrru D27.