Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dogfennau adnabod a'r gofynion ar gyfer y llun

Wrth wneud cais am drwydded yrru cerdyn-llun rhaid i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi yn ogystal â llun. Ni all yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) roi trwydded yrru i chi nes bydd yn fodlon y gall gadarnhau pwy ydych chi.

Pasport digidol y Deyrnas Unedig (DU)

Os oes gennych basport digidol (y llun a’r llofnod yn ymddangos ar yr un dudalen), gall DVLA gadarnhau pwy ydych chi gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau. Does dim rhaid i chi anfon eich pasport atynt.

Wrth wneud cais ar-lein, gofynnir i chi roi eich rhif pasport naw digid sy'n caniatáu i DVLA gadarnhau pwy ydych chi.

Os ydych chi’n gwneud cais drwy'r post, gan ddefnyddio ffurflen D1, 'cais am drwydded yrru', ysgrifennwch eich rhif pasport naw digid a'ch llofnod yn yr adran 'cadarnhau pwy ydych chi' ar y ffurflen D1.

Dogfennau adnabod eraill

Mae'r DVLA hefyd yn derbyn y dogfennau gwreiddiol canlynol fel prawf o bwy ydych chi. Ond, yn wahanol i'r pasport digidol, bydd angen i chi anfon y rhain gyda'ch cais:

  • pasport dilys llawn cyfredol
  • cerdyn adnabod aelod wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (CE/AEE)*heblaw Sweden
  • dogfennau teithio a roddwyd gan y Swyddfa Gartref
  • tystysgrif dinasyddio’r DU

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, gallwch ddarparu copïau gwreiddiol o un o’r canlynol yn eich enw:

  • datganiad banc neu gymdeithas adeiladu diweddar (o fewn tri mis) yn dangos eich tâl pensiwn a’ch rhif Yswiriant Gwladol
  • llythyr BR2102, BR2103 neu BR2199 sy’n brawf eich bod yn gymwys i gael pensiwn ymddeol y wladwriaeth

Tystysgrifau geni a mabwysiadu y DU

Mae tystysgrifau geni a mabwysiadu y DU hefyd yn dderbyniol; fodd bynnag, gan nad ydynt yn brawf llwyr o bwy ydych chi, rhaid cael un o'r canlynol gyda hwy:

  • Cerdyn Yswiriant Gwladol neu lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol
  • llungopi o dudalen flaen llyfr budd-daliadau neu gopi gwreiddiol o lythyr hawlio budd-daliadau
  • P45, P60 neu slip talu
  • tystysgrif priodas neu bapurau ysgariad (dyfarniad amodol neu derfynol)
  • cerdyn undeb coleg neu brifysgol neu gofnod ysgol

Os nad oes gennych chi dystysgrif geni neu fabwysiadu, neu os nad yw'r un sydd gennych yn dangos eich enw llawn neu wlad eich geni, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol.

Newid enw

Bydd angen i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth os yw eich enw wedi newid a'i fod yn wahanol i'r enw ar y ddogfen hunaniaeth y byddwch yn ei darparu, e.e. tystysgrif priodas wreiddiol, dyfarniad amodol neu derfynol neu ddatganiad gweithred newid enw.

Rhaid i'r manylion a gyflwynwch ddangos cyswllt clir rhwng yr enw sydd ar eich dogfen adnabod a'ch enw presennol.

Anfon eich dogfennau adnabod yn ôl

Bydd y DVLA yn anfon eich dogfennau'n ôl o fewn 10 diwrnod gwaith, ar wahân i'ch trwydded. Os na fyddwch wedi eu cael o fewn yr amser hwn, cysylltwch â llinell ymholiadau cwsmeriaid y DVLA.

Os hoffech chi i DVLA anfon eich dogfennau adnabod yn ôl atoch drwy drefn cludiant arbennig, dylech gynnwys amlen barod ar gyfer cludiant arbennig. Gwnewch nodyn o’r rhif cyfresol er mwyn i chi allu cyfeirio ato.

Ni all DVLA warantu y bydd yn anfon eich dogfennau yn ôl atoch erbyn dyddiad neu ddigwyddiad penodol, er enghraifft, gwyliau.

Y math o lun y dylech ei anfon

Rhaid i’ch llun fodloni’r gofynion hyn:

  • llun lliw o fath pasport (maint y llun 45mm x 35mm)
  • wedi'i dynnu yn ystod y mis diwethaf, yn dangos gwir debygrwydd, gyda'r wyneb i gyd yn y golwg, heb het, helmed na sbectol haul, er y gallwch wisgo’r sbectol a wisgwch bob dydd
  • wedi ei dynnu yn erbyn cefndir plaen heb gysgodion

Mae'r DVLA yn cyhoeddi trwydded yrru newydd sy'n cynnwys gwell nodweddion diogelwch. Un o'r rhain yw y bydd eich llun lliw wedi'i ysgythru â laser ar y drwydded, gan roi llun du a gwyn diogel dros ben.

Ardystio eich llun

Onid ydych yn darparu pasport cyfredol dilys llawn y DU neu CE/AEE neu ddogfen deithio a roddwyd gan y Swyddfa Gartref, bydd angen ardystio eich llun. Rhaid i gefn eich llun gael ei lofnodi gan yr un unigolyn ag sy'n cwblhau adran saith eich ffurflen D1. Bydd y DVLA yn archwilio ar hap fanylion pobl sy’n llofnodi ceisiadau am drwydded yrru cerdyn-llun.

Ni fydd angen i ddeiliaid trwyddedau cerdyn-llun sy'n adnewyddu eu llun ardystio eu llun:

  • os yw ei oes wedi dod i ben a'i fod yn barod i gael ei adnewyddu ar ôl 10 mlynedd
  • os yw'n cael ei adnewyddu cyn iddo ddod i ben

Llofnodi eich llun

Mae'n ofynnol:

  • bod yr unigolyn yn byw yn y DU
  • bod yr unigolyn yn eich adnabod yn bersonol (ers o leiaf ddwy flynedd)
  • nad yw'r unigolyn yn berthynas i chi

Mae’r bobl ganlynol yn addas:

  • person busnes neu berchennog siop lleol
  • llyfrgellydd
  • person cymwysedig proffesiynol, er enghraifft, cyfreithiwr, athro neu beiriannydd
  • heddwas
  • swyddog mewn banc neu gymdeithas adeiladu
  • gwas sifil
  • gweinidog yr efengyl
  • ynad heddwch
  • cynghorydd lleol, Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Aelod o Senedd Ewrop neu Aelod o Senedd yr Alban

Gall staff eich swyddfa DVLA leol helpu os nad oes gennych neb i lofnodi eich llun, os ydych chi wedi dechrau preswylio yn y DU neu wedi dychwelyd yno o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddant yn llofnodi eich llun ac yn llenwi adran saith ar y ffurflen gais. Wedyn, anfonir eich cais a'ch dogfennau adnabod gwreiddiol i DVLA Abertawe i'w dilysu ymhellach.

Gwasanaeth Gwirio Premiwm

Gall cangen o Swyddfa'r Post® neu Swyddfa DVLA leol wirio'ch cais os nad ydych chi'n awyddus i anfon eich dogfennau adnabod i DVLA drwy'r post. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer ceisiadau ar-lein.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU