Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Adnewyddu trwydded - meddygol

Os oes gennych chi drwydded yrru cyfnod byr y mae angen ei hadolygu oherwydd cyflwr meddygol, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon ffurflen atoch er mwyn eich atgoffa i wneud cais cyn i'ch trwydded ddod i ben.

Adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun

Naw deg diwrnod cyn i'ch trwydded ddod i ben, bydd y DVLA yn anfon ffurflen D42 atoch, sef 'ffurflen gais a nodyn i'ch atgoffa bod eich trwydded yrru yn dod i ben', ynghyd â holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi. Er mwyn adnewyddu eich hawl i yrru cerbyd mwy, bws mini neu fws, bydd ffurflen gais D48, sef 'cais i adnewyddu hawl i yrru lori/bws', yn cael ei hanfon atoch.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen D42 neu D48
  • llenwi'r holiadur meddygol
  • cynnwys llun newydd o fath pasport os oes angen
  • anfon eich dogfennau yn yr amlen radbost a ddarparwyd

Does dim angen i chi amgáu unrhyw ddogfennau adnabod, na ffi. Hefyd, fe anfonir ffurflen adnewyddu llun ar drwydded yrru atoch os yw'n amser adnewyddu'ch llun.

Newid enw

Os yw'ch enw wedi newid ers i chi gael eich trwydded ddiwethaf, bydd angen i chi hefyd lenwi 'cais am drwydded yrru' (D1). Mae'r ffurflen D1 ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Rhaid i chi hefyd gynnwys dogfennau gwreiddiol sy'n cadarnhau bod eich enw wedi newid.

Beth i’w wneud os nad ydych yn cael eich ffurflenni

Os nad ydych chi, am unrhyw reswm, yn cael y ffurflenni cais i'ch atgoffa, fe allwch chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen gais D1 a'r holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi
  • fe allwch chi ffonio'r DVLA ar 0870 600 0301 er mwyn iddynt anfon y ffurflenni cais atoch os ydych chi'n gyrru car, moped a beic modur
  • fe allwch chi ffonio'r DVLA ar 0870 241 1879 er mwyn iddynt anfon y ffurflenni cais atoch os ydych chi'n gyrru cerbydau mwy, bysiau mini a bysiau

Bydd angen i chi hefyd edrych ar y dyddiad y mae'ch llun yn dod i ben ar eich trwydded yrru. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru. Os yw'n dod i ben yn y ddau fis nesaf bydd angen ei adnewyddu ar unwaith.

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod y DVLA yw cwblhau ei ymholiadau cyn gynted â phosib. Bydd yr amser a gymerir i ddelio â'ch achos arbennig chi yn dibynnu ar eich cyflwr meddygol ac ar y wybodaeth y mae ei hangen. Pan fydd modd gwneud penderfyniad, ar sail y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wreiddiol, bydd y DVLA yn anelu at benderfynu ar 88 y cant o achosion o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os bydd angen unrhyw wybodaeth arall arnynt, gennych chi, gan eich meddyg, neu gan ffynonellau eraill, neu os ydych yn gwneud cais am drwydded lori neu fws, bydd y DVLA yn ceisio penderfynu ar 85 y cant o achosion o fewn 90 diwrnod gwaith.

Os bydd yr ymholiadau yn cymryd mwy o amser na’r amseroedd targed a nodir uchod, bydd y DVLA yn ysgrifennu atoch yn egluro beth sy’n digwydd.

Cysylltiadau'r DVLA

Grŵp Meddygol y Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU