Ydych chi'n ystyried prynu neu logi cartref modur (carafán modur) i fynd ar eich gwyliau? Neu efallai eich bod yn dymuno mewnforio un o wlad arall. Cyn i chi benderfynu, bydd angen i chi wirio'r hawl sydd gennych ar eich trwydded yrru a maint y cartref modur yr ydych am ei yrru.
Bydd angen i chi sicrhau bod eich trwydded yrru'n rhoi'r hawl i chi yrru cartref modur. Mae'r categorïau a ddangosir ar eich trwydded yn caniatáu i chi yrru cerbydau hyd at rai pwysau penodol, a elwir yr uchafswm màs awdudordedig (UMA).
Cewch yrru cerbydau hyd at 3.5 tunnell UMA, ynghyd ag ôl-gerbyd heb fod dros 750 cilogram. I dynnu ôl-gerbyd trymach, bydd arnoch angen hawl categori B+E.
Cewch yrru cerbydau dros 3.5 tunnell UMA ond llai na 7.5 tunnell (gyda neu heb ôl-gerbyd hyd at 750 cilogram). I dynnu ôl-gerbyd trymach, bydd arnoch angen hawl categori C1+E.
Os pasioch chi’r prawf categori C1+E:
Cewch yrru cerbydau ag UMA dros 7.5 tunnell. I dynnu ôl-gerbyd dros 750 cilogram, bydd arnoch angen hawl categori C+E. Ni ellir gyrru cartrefi modur o'r pwysau hyn ar drwydded categori B (car) safonol, pryd bynnag y cafwyd yr hawl categori B hwnnw.
Y maint mwyaf a ganiateir ar gyfer cartrefi modur yng Ngwledydd Prydain yw 12m o hyd a 2.55m o led. Nid oes uchafswm uchder, ond os yw'r cerbyd yn fwy na 3m o uchder, yna rhaid mesur ac arddangos yr uchder (mewn unedau imperial, a metrig hefyd os oes modd) ar arwydd sy'n ddigon clir i chi'r gyrrwr.
Ar gyfer lled, anwybyddwch:
Ar gyfer hyd, anwybyddwch:
Yr Adran Drafnidiaeth sy'n gosod y terfynau cyfredol a gynhwysir yn Rheoliadau Cerbydau'r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 1986 (fel y’u diwygiwyd). Mae cynrychiolwyr o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, wedi cytuno i osod y terfynau hyn ledled Ewrop.
Ystyriwyd nifer o ffactorau, megis cyfyngiadau presennol gwahanol wledydd, cad-drefniant cerbydau a manylion ffyrdd arferol. Hefyd, gallai maint cyfan cerbydau mawr greu perygl annerbyniol i ddiogelwch adeilad cyfagos, cerbydau a cherddwyr, ond yn enwedig i ddiogelwch traffig sy'n dod tuag atoch.