Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gyrru bws mini

Efallai y cewch chi yrru bws mini heb hawl bws, os nad yw er eich budd neu am dâl. Ystyr budd neu dâl yw unrhyw daliad ar ffurf arian parod neu ar ffurf nwyddau gan neu ar ran teithwyr, a hynny'n rhoi hawl iddynt gael eu cludo.

Trwyddedau ceir a roddwyd cyn 1 Ionawr 1997

Os oedd gennych chi hawl i yrru ceir cyn 1 Ionawr 1997, fe gewch chi yrru bws mini ar yr amod eich bod yn 21 neu'n hŷn ac nad oes gan y bws mini fwy nag 17 o seddi gan gynnwys sedd y gyrrwr, ac nad yw hynny er budd nac am dâl.

Er mwyn gyrru bws mini gyda naw neu fwy o seddi teithwyr heb ei fod er budd nac am dâl, fel rheol bydd arnoch angen hawl i yrru cerbyd cludo teithwyr (PCV). Er mwyn cael yr hawl hon rhaid i chi fodloni safonau meddygol uwch a phasio prawf gyrru arall. Fodd bynnag, os ydych chi'n gyrru bws mini ar gyfer mudiad o dan y cynllun hawlen bws mini neu fws cymunedol, ni fydd angen i chi gael yr hawl uwch i yrru cerbydau PCV.

Rheolau newydd o 1 Ionawr 1998 ymlaen

Bydd eich hawl i yrru bws mini yn parhau'n ddilys yn y Deyrnas Unedig (DU) ac ar ymweliadau tramor tan yr adnewyddir eich trwydded y tro nesaf. Pan gaiff eich trwydded ei hadnewyddu, ni roddir hawl i yrru bws mini heblaw eich bod yn gwneud cais arbennig am hynny. Bydd hyn yn golygu bodloni safonau meddygol uwch.

Os yw eich hawl i yrru bws mini yn cael ei hadnewyddu, byddwch yn cael trwydded am dair blynedd a fydd yn eich galluogi i yrru bws mini, nid er budd nac am dâl, yn y DU ac ar ymweliadau dros dro â gwledydd eraill yn y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop (GE/AEE). Gweler isod am fwy a fanylion ynghylch trwyddedau a gaiff eu derbyn dramor.

Os na chaiff eich hawl i yrru bws mini ei hadnewyddu, ni fydd yr hawl honno wedyn yn ymddangos ar eich trwydded. Serch hynny, os ydych chi o dan 70 oed, efallai y cewch chi barhau i yrru bysiau mini o dan rai amgylchiadau. Bydd gyrwyr y mae eu trwyddedau ar fin cael eu hadnewyddu yn derbyn cyngor ynghylch y drefn newydd gyda'u llythyr i'w hatgoffa i adnewyddu.

Disgrifiadau o gategorïau cerbydau

Mae disgrifiadau o gategorïau cerbydau, sy'n ymddangos ar eich trwydded yrru, i'w cael o'r ddolen isod.

Trwyddedau â chyfyngiadau meddygol

Yn gyffredinol, mae'n rhaid adnewyddu trwyddedau car pan fydd gyrwyr yn cyrraedd 70 oed, ond bydd y rheolau newydd hefyd yn effeithio ar yrwyr iau sydd â thrwyddedau meddygol cyfyngedig os ydynt yn adnewyddu eu trwyddeddau ar ôl 1 Ionawr 1998. Os oes gennych chi drwydded feddygol gyfyngedig, dylech fod yn ymwybodol na fydd yr hawl i yrru bysiau mini'n wirfoddol (bysiau nad ydynt yn fasnachol) yn gorfod cydymffurfio â'r safonau uwch hyd nes y byddwch yn 70 oed. Mae'r rheolau ar gyfer trwyddedau ceir a roddwyd ar ôl 1 Ionawr 1997 hefyd yn berthnasol i chi. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y bydd cyflyrau meddygol ac anableddau yn effeithio ar eich trwydded, fe allwch chi ddefnyddio'r ddolen isod:

Trwyddedau a fydd yn cael eu derbyn dramor

Bydd pob hawl ar drwyddedau Prydeinig yn dal i fod yn ddilys yn ystod ymweliad dros dro â gwledydd eraill yn y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop. Dylech fod yn ymwybodol na ellir gyrru bysiau mini â hawlen, er budd neu am dâl, y tu allan i'r Deyrnas Unedig oni bai bod y gyrrwr wedi pasio prawf PCV.

Efallai y bydd gyrwyr sy'n symud i fyw'n barhaol i wlad arall yn y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop yn darganfod na fydd eu hawl i yrru bysiau mini (nid er budd nac am dâl) yn ddilys bellach. Dylech gael cyngor gan awdurdod trwyddedu'r wlad newydd, ar wahân i Ogledd Iwerddon sydd â'r un hawliau â Gwledydd Prydain.

Gyrwyr heb hawl i yrru bws mini

Os nad yw eich trwydded yrru yn caniatáu i chi yrru bws mini, dan rai amgylchiadau penodol bydd modd i chi wneud hynny, a chaiff hyn ei esbonio yn y ddolen isod.

Mae taflen wybodaeth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghylch y pwnc hwn ar gael o swyddfeydd DVLA lleol neu i'w llwytho o'r ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU