Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich ymddygiad wrth yrru cerbydau mwy, bysiau mini neu fysiau

Os ydych chi'n gwneud cais am drwydded yrru cerbyd nwyddau mawr (LGV) neu drwydded yrru cerbyd cludo teithwyr (PCV), neu os oes un o'r rhain gennych eisoes, bydd yn rhaid i'ch ymddygiad wrth yrru fod o safon uchel.

Y Comisiynydd Traffig yn yr ardal ymhle mae'r gyrrwr yn byw sy'n ymdrin â'r modd y bydd gyrwyr pob cerbyd nwyddau mawr a cherbydau cludo teithwyr yn gyrru. Bydd unrhyw benderfyniad a gaiff ei wneud gan y Comisiynydd Traffig, e.e. gwrthod, diddymu neu wahardd hawl gyrrwr, yn rhwym yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedyn yn gweithredu ar sail penderfyniad y Comisiynydd Traffig.

Wrth wneud cais am drwydded, rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os byddwch, o fewn y pedair blynedd diwethaf, wedi'ch dyfarnu'n euog o dorri rheolau sy'n ymwneud â:

  • oriau gyrwyr
  • cofnodion gyrwyr
  • pa mor addas yw'ch cerbyd i fod ar y ffordd fawr
  • gorlwytho'r cerbyd

Does dim angen i chi roi gwybod i'r DVLA os byddwch wedi'ch dyfarnu'n euog o un o'r rhain os oedd hynny dros bedair blynedd yn ôl.

Ymddygiad nad yw'n ymwneud â gyrru - gyrwyr cerbydau cludo teithwyr

At hynny, os ydych chi'n gwneud cais am drwydded PCV bws mini neu fws, rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi'ch dyfarnu'n euog o unrhyw droseddau eraill mewn llys - hyd yn oed os nad ydynt yn ymwneud â gyrru - troseddau rhyw, er enghraifft. Mae angen i'r DVLA gael gwybod am y rhain oni bai eu bod wedi dirwyn i ben o dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.

Os byddwn yn credu bod eich ymddygiad yn amhriodol, byddwch yn cael gwrthod trwydded. Os oes gennych chi drwydded a chithau'n cyflawni troseddau o'r fath yn y dyfodol, mae perygl i'r drwydded PCV gael ei diddymu neu ei hatal.

Ym mhob achos sy'n ymwneud ag ymddygiad, Comisiynydd Traffig yr ardal lle rydych chi'n byw fydd yn penderfynu a gewch chi yrru cerbydau nwyddau mawr neu gerbydau cludo teithwyr ai peidio. Wrth wneud hynny, bydd pob ardystiad ar eich trwydded yn cael ei ystyried gan y Comisiynydd Traffig. Ni fyddant yn rhoi'r hawl i chi os ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru. Bydd DVLA wedyn yn gweithredu ar sail penderfyniad y Comisiynydd Traffig.

Euogfarnau sydd wedi darfod

Gellir cael mwy o fanylion am daflen 'Llechen Lân' y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr am ddim gan:

Y Swyddfa Gartref
2  Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Rhagor o wybodaeth

Ceir gwybodaeth am gyfyngwyr cyflymder, rheolau tacograff a throseddau eraill sy'n ymwneud ag ymddygiad wrth yrru ar wefan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) drwy'r ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU