Mae trefniadau trwyddedu arbennig yn eu lle sy'n eich galluogi i yrru bysiau mini a bysiau heb orfod cael yr hawl uwch ar eich trwydded i yrru cerbydau cludo teithwyr (PCV). Fel rheol, rhaid i yrwyr cerbydau cludo teithwyr sydd â 9-16 o seddi teithwyr feddu ar drwydded PCV categori D1 neu gategori D er mwyn gyrru bysiau mwy.
Caiff unrhyw un sydd â thrwydded lawn categori B (car) yrru unrhyw un o'r cerbydau a restrir isod:
i. defnyddir y cerbyd at ddiben cymdeithasol gan gorff nad yw'n fasnachol, ond heb fod er budd nac am dâl
ii. mae'r gyrrwr yn 21 oed
iii. mae gan y gyrrwr drwydded car (categori B) ers o leiaf 2 flynedd
iv. mae'r gyrrwr yn darparu'r gwasanaeth yn wirfoddol
v. nid yw pwysau uchaf y bws mini yn fwy na 3.5 tunnell neu 4.25 tunnell gan gynnwys unrhyw offer arbennig er mwyn cludo teithwyr anabl
vi. os yw'r gyrrwr dros 70 oed, rhaid iddo fodloni'r safonau iechyd ar gyfer gyrru cerbyd D1
Pan fyddwch yn gyrru bws mini dan yr amodau hyn ni chewch dderbyn unrhyw dâl na chydnabyddiaeth am wneud hynny, heblaw am yr hyn y bu'n rhaid i chi ei dalu o'ch poced eich hun, na thynnu ôl-gerbydau o unrhyw faint; dim ond yn y wlad hon y cewch yrru bysiau mini. Bydd yn rhaid i yrwyr sy'n 70 mlwydd oed neu'n hŷn wneud cais arbennig sy'n golygu bodloni safonau meddygol uwch.
Caiff y rheiny sydd â thrwydded yrru lawn categori D (PCV) hefyd yrru cerbyd adfer sy'n cludo teithwyr. Caiff hwn ei ddiffinio fel cerbyd (nad yw'n gyfuniad o gerbyd nwyddau a cherbyd amaethyddol) sydd:
i. mynd yn ôl ac ymlaen o rywle lle rhoddir neu lle rhoddwyd cymorth i gerbyd cludo teithwyr sydd wedi'i ddifrodi neu sy'n cludo pobl anabl
ii. rhoi cymorth neu symud cerbyd cludo teithwyr sydd wedi'i ddifrodi neu'n cludo pobl anabl
Rhaid i yrwyr cerbydau cludo teithwyr sydd wedi'u heithrio (PCV) ac unrhyw gerbyd sy'n pwyso dros 7.5 tunnell fod yn 21 mlwydd oed.
Mae categorïau'r cerbydau a disgrifiadau ohonynt i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.
Ni all y DVLA roi cyngor cyfreithiol am sut y caiff cerbydau eu categoreiddio, ond yn gyffredinol mae'n dibynnu ar bwysau'r cerbyd neu ar nifer y teithwyr y gall eu cludo.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, holwch DVLA ar 0870 240 0009 ac mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am ac 8.30pm a dydd Sadwrn 9am - 5.30pm.