Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sefyll prawf theori ar gyfer bysiau neu lorïau

Mae dwy ran i'r prawf theori – y rhan amlddewis a'r rhan adnabod peryglon. Does dim ots pa brawf fyddwch chi’n ei sefyll yn gyntaf, ond bydd angen i chi basio’r ddau i gael eich tystysgrif prawf.    Ar ôl i chi basio’r profion, bydd gennych ddwy flynedd i basio’ch prawf ymarferol.

Sefyll eich prawf theori

Gellir sefyll y ddwy ran ar wahanol adegau, ond mae'n rhaid pasio'r ddwy ran o fewn cyfnod o 24 mis er mwyn cael tystysgrif pasio ddilys ar gyfer y prawf theori.

Rhan un – amlddewis

Cyn cychwyn y prawf amlddewis, fe gewch chi gyfarwyddiadau ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud. Fe gewch chi sesiwn ymarfer hefyd i weld sut mae’r cwestiynau wedi’u gosod, a sut mae defnyddio’r cyfrifiadur sgrin gyffwrdd.

Pan fydd y prawf yn dechrau, bydd cwestiwn ac amryw o atebion posib yn ymddangos ar y sgrin. Bydd rhaid i chi ddewis yr ateb cywir i’r cwestiwn drwy gyffwrdd y sgrin neu ddefnyddio’r llygoden. Efallai y bydd mwy nag un ateb cywir i rai cwestiynau.

Gofynnir 100 cwestiwn i chi mewn 115 munud. Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf.

Y marc pasio ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori yw 85 allan o 100.

Rhan dau – adnabod peryglon

Yn y prawf adnabod peryglon, fe ddangosir clip fideo byr i chi ynghylch sut mae’r prawf yn gweithio. Bydd cyfres o 19 clip fideo yn cael ei dangos i chi o sefyllfaoedd bob dydd ar y ffordd. Ym mhob clip, bydd o leiaf un perygl yn datblygu, ond bydd dau berygl yn datblygu yn un o'r clipiau.

I gael sgôr uchel yn y prawf, bydd angen i chi ymateb yn gynnar i’r peryglon sy’n datblygu. Y sgôr mwyaf y gallwch chi ei gael ar gyfer pob perygl yw pump. Ni fydd modd i chi adolygu’ch atebion i’r prawf oherwydd, yn yr un modd â phan fyddwch chi’n gyrru ar y ffordd, dim ond un cyfle fydd gennych chi i ymateb.

Y marc pasio ar gyfer rhan adnabod peryglon y prawf theori yw 67 allan o 100.

Ar ddiwedd y prawf

Ar ddiwedd rhan adnabod peryglon y prawf theori, fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid. Bydd rhai cwestiynau enghreifftiol i’w hateb hefyd, ac mae’n bosib y caiff y rhain eu cynnwys mewn profion yn y dyfodol. Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi'n dymuno, a bydd yr wybodaeth a roddir yn ddienw ac yn gyfrinachol. Nid yw cwestiynau’r arolwg yn effeithio ar ganlyniadau eich prawf.

Ar ôl i chi orffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi. Pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell, chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn.

Ar ôl pasio'r profion theori

Fe gewch chi lythyr pasio a fydd yn nodi'r canlyniadau ar gyfer y rhan o'r prawf theori rydych wedi'i chyflawni.

Ar ôl i chi basio’r ddwy ran, fe gewch chi eich tystysgrif prawf theori drwy’r post, a bydd rhif eich prawf theori i'w weld ar y dystysgrif. Bydd arnoch angen y rhif hwn pan fyddwch chi’n trefnu eich prawf ymarferol.

Mae'ch tystysgrif prawf theori yn ddilys am ddwy flynedd o’r dyddiad y gwnaethoch basio rhan gyntaf y prawf. Gallai hyn olygu naill ai’r rhan adnabod peryglon neu’r rhan amlddewis.

Os na fyddwch chi’n sefyll eich prawf ymarferol o fewn dwy flynedd i basio’r elfen gyntaf, bydd rhaid i chi ailsefyll y rhan berthnasol.

Does dim eithriadau i'r rheolau hyn.

Os byddwch yn methu’r profion theori

Cewch lythyr yn cyhoeddi’ch canlyniad, a fydd yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ynteu fethu ac yn rhoi adborth ar eich prawf. Mae’n cynnwys yr adrannau lle gwnaethoch ateb yn anghywir, er mwyn i chi wybod pa elfennau y dylech edrych arnynt eto. Mae hefyd yn rhoi dadansoddiad o’r sgoriau a gawsoch yn y prawf adnabod peryglon drwy ddweud sawl sgôr o bump, pedwar a thri gawsoch chi.

Os mai sero, un a dau bwynt gawsoch chi'n bennaf, dydych chi ddim yn ymateb yn ddigon cyflym i'r perygl sy'n datblygu ar y sgrin. Os mai pedwar a phum pwynt gawsoch chi’n bennaf, rydych yn adnabod y peryglon sy'n datblygu yn gyflym.

Os byddwch chi’n methu, bydd yr adborth yn y llythyr yn dweud wrthych pam eich bod wedi methu.

Os hoffech chi drefnu prawf theori arall, gallwch drefnu un arall yn syth. Ond, ni allwch sefyll y prawf am dri diwrnod gwaith llawn. Felly, os gwnaethoch fethu’ch prawf cyntaf ar brynhawn dydd Llun, bydd rhaid i chi aros tan fore dydd Gwener cyn gallu sefyll eich prawf theori nesaf.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod cost profion gyrru theori ac ymarferol pan rydych yn archebu eich prawf ar Directgov

Rheolau’r Ffordd Fawr

Darllenwch Rheolau’r Ffordd Fawr ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU