Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gyrru'n eco-ddiogel

Byddwch yn yrrwr car neu feic modur 'eco-ddiogel' a chyfrannu at ddiogelwch ar y ffordd yn ogystal â lleihau'ch defnydd o danwydd a gollyngiadau'ch cerbyd. Bydd newid y ffordd yr ydych yn gyrru'ch car neu'ch beic modur yn arbed arian i chi hefyd. O fis Medi 2008 ymlaen, bydd unrhyw un sy'n sefyll prawf gyrru hefyd yn cael adborth am ba mor eco-ddiogel yw eu gyrru.

Gyrru eco-ddiogel fel rhan o'r prawf gyrru ymarferol

O 10 Medi 2008 ymlaen, os byddwch chi'n sefyll prawf gyrru, byddwch hefyd yn cael eich asesu am eich gallu i yrru car neu feic modur mewn modd sy'n arddangos ffyrdd eco-ddiogel o yrru.

Nid yw'r asesiad hwn yn rhan o'r meini prawf sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y prawf ymarferol, ac ni fyddwch yn methu'ch prawf am beidio arddangos ffyrdd eco-ddiogel o yrru.

Bydd yr arholwr gyrru yn asesu rheolaeth a chynllunio, ac ar ddiwedd y prawf bydd yn rhoi adborth i chi, fel math o arweiniad, ar ba mor effeithlon yw'ch gyrru.

Rheolaeth

Ceisiwch ddefnyddio offerynnau rheoli'r cerbyd mor llyfn ag y gallwch bob amser, gan roi sylw arbennig i:

  • dechrau a symud i ffwrdd
  • cyflymu
  • defnyddio gêrs
  • gyrru ar gyflymder addas

Bydd hyn yn lleihau'r traul ar eich cerbyd ac yn helpu i ostwng CO2.

Cynllunio

Ceisiwch leihau gollyngiadau niweidiol drwy ragweld amodau traffig a ffyrdd ac ymateb mewn da bryd, yn hytrach nag ymateb ar y funud olaf, yn enwedig:

  • dangos ymwybyddiaeth o beryglon, a chynllunio
  • defnyddio'r injan i frecio
  • diffodd yr injan pan fo hynny'n addas

Awgrymiadau ar sut i yrru'n 'eco-ddiogel'

Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn fel arweiniad i yrru car neu feic modur yn ddiogel ac mewn modd economaidd:

  • profi'ch teiars yn rheolaidd a'u cadw ar y pwysedd a argymhellir
  • peidio cario unrhyw bwysau diangen
  • tynnu raciau to neu focsys cludo pan nad oes eu hangen er mwyn lleihau'r gwrthiant aer
  • peidio gyrru'n gynt na'r cyfyngiadau cyflymder, gan gyflymu gan bwyll bach
  • ystyried defnyddio rheolydd cyflymder sefydlog (cruise control) pan fo hynny'n addas
  • diffodd eich injan os ydych yn debygol o fod yn oedi'n hir
  • dim ond defnyddio'r system aerdymheru pan fo angen gwneud hynny
  • cynllunio'ch taith er mwyn osgoi mannau lle bydd tagfeydd
  • ceisio teithio ar adegau tawel

Ceir rhagor o wybodaeth am yrru'n eco-ddiogel yn y daflen 'Gyrru'n Eco-ddiogel - arweiniad i yrru'n ddiogel ac yn economaidd'. Caiff hwn ei roi i ymgeiswyr ar ddiwedd eu prawf gyrru neu gellir ei lwytho oddi ar y we.

Allweddumynediad llywodraeth y DU