Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofynion golwg ar gyfer gyrru

Cyn i chi ddechrau dysgu gyrru, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o’r gofynion o ran eich golwg. Os oes angen sbectol neu lensys cywiro arnoch i fodloni'r gofynion, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi eu gwisgo bob tro y byddwch yn gyrru.

Rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghylch cyflwr eich golwg

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded yrru gan DVLA, dylech roi gwybod iddynt os oes gennych:

  • unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar y ddau lygad (ac eithrio golwg byr, golwg hir neu ddallineb lliw)
  • unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar eich golwg (ac eithrio golwg byr, golwg hir neu ddallineb lliw), er enghraifft, os mai dim ond drwy un llygad yr ydych chi'n gweld

Os ydych chi wedi cael triniaeth i gywiro'ch golwg, dylech roi gwybod am hyn wrth wneud cais am eich trwydded dros dro.

Gofynion o ran golwg ar gyfer y prawf gyrru ymarferol

Cyn y prawf gyrru ymarferol bydd eich arholwr gyrru yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sy'n sefyll yn ei unfan.

Ar gyfer y prawf golwg, mae'n ofynnol eich bod yn gweld yr hen fath o blatiau rhif o bellter o 20.5 metr, a'ch bod yn gweld y platiau rhif newydd o bellter o 20 metr. Cyflwynwyd y platiau rhif newydd ar

1 Medi 2001 ac maent yn hawdd eu hadnabod gan eu bod yn dechrau â dwy lythyren, er enghraifft AB51 ABC.

Os na allwch chi siarad Saesneg neu os ydych chi'n cael trafferth darllen, fe allwch chi gopïo'r hyn yr ydych chi'n ei weld.

Os na allwch chi ddarllen y plât rhif cyntaf

Os na allwch chi ddarllen y plât rhif cyntaf yn gywir, gofynnir i chi ddarllen plât rhif arall. Os na allwch ddarllen yr ail blât yn gywir, caniateir i chi gerdded ymlaen nes eich bod yn camu ychydig dros ffin y pellter priodol.

Os ydych chi'n dal yn methu â darllen y plât rhif yn gywir, bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen trydydd plât rhif, ac yn mesur yr union bellter rhyngoch chi â'r plât rhif hwn. Gofynnir i chi ddarllen hen fath o blât rhif o bellter o 20.5 metr, a gofynnir i chi ddarllen plât rhif newydd o bellter o 20 metr.

Os na allwch chi ddarllen y trydydd plât rhif

Os na allwch chi ddarllen y trydydd plât rhif yn gywir, ac os yw'r arholwr yn fodlon nad yw safon eich golwg yn bodloni'r gofynion angenrheidiol, byddwch yn methu'r prawf gyrru, ac ni fydd y prawf ymarferol yn parhau.

Bydd y methiant hwn yn cael ei nodi ar y ffurflen prawf gyrru (DL25) gyda marc ym mlwch Eitem 1. Bydd eich dehongliad o'r plât rhif ynghyd â'r rhif cywir yn cael ei ysgrifennu ar gefn y ffurflen ynghyd â'r pellter a fesurwyd.

Gwisgo sbectol/lensys cywiro i basio'r prawf golwg

Os ydych chi'n gorfod gwisgo sbectol neu lensys cywiro i ddarllen y plât rhif yn y prawf golwg, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi eu gwisgo bob amser y byddwch yn gyrru, a thrwy gydol eich prawf. Ni chaniateir i chi dynnu eich sbectol neu'ch lensys cywiro wrth wneud y symudiadau (bagio ayb) yn ystod y prawf.

Os gwnaethoch ddefnyddio'ch sbectol neu'ch lensys cywiro i ddarllen y plât rhif ac y gwnaethoch eu tynnu yn ystod y prawf ymarferol, bydd eich arholwr yn eich atgoffa ei bod yn rhaid i chi eu gwisgo yn ôl y gyfraith; os byddwch yn gwrthod eu gwisgo, bydd y prawf yn dod i ben.

Os ydych chi wedi torri'ch sbectol, wedi ei hanghofio neu wedi dod â'r un anghywir gyda chi, dylech ddweud wrth eich arholwr ar ddechrau'r prawf. Os na ddywedwch wrth yr arholwr ac os byddwch yn rhoi cynnig ar y prawf golwg ond yn methu, cofnodir eich bod wedi methu'ch prawf ac ni fydd gweddill y prawf yn mynd yn ei flaen.

Os byddwch yn methu'r prawf golwg

Os byddwch yn methu â bodloni gofynion y prawf golwg, bydd yr arholwr yn gofyn i chi lofnodi ffurflen DL.77, sy'n cydnabod i chi fethu â chydymffurfio â gofynion y prawf golwg. Bydd yr arholwr (gan ddefnyddio ffurflen DL.77) yn rhoi gwybod i DVLA nad oedd eich golwg yn bodloni'r gofynion, a bydd eich trwydded yn cael ei diddymu.

I ail wneud cais am eich trwydded, anfonwch ffurflen D1 - ‘Cais am drwydded yrru’ i DVLA. Mae'r ffurflen ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®. Gallwch hefyd lwytho a llenwi'r holiadur meddygol V1 a'i ddychwelyd gyda'ch ffurflen D1.

Pan fydd eich cais yn cyrraedd DVLA byddant yn gofyn i'r Asiantaeth Safonau Gyrru gynnal prawf golwg ar wahân i chi mewn canolfan brawf. Os byddwch chi'n llwyddiannus bydd yn dal yn rhaid i chi basio prawf golwg safonol yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn ystod eich prawf gyrru ymarferol nesaf.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU