Mae nifer o gerbydau na chewch eu defnyddio mewn prawf gyrru ymarferol, a hynny am resymau diogelwch. Mae'r cerbydau hyn naill ai wedi cael eu galw'n ôl, neu mae hysbysiad diogelwch wedi'i gyhoeddi ar eu cyfer am fod nam wedi'i ganfod ar y cerbyd a bod angen i'r gwneuthurwr neu'r masnachwr ei gywiro.
Bydd angen i chi wneud yn siŵr nad yw hysbysiad diogelwch na chyhoeddiad i alw ceir yn ôl yn effeithio ar y cerbyd y bwriadwch ei ddefnyddio yn y prawf ymarferol.
Er diogelwch y gyrrwr ac arholwr y prawf gyrru, ni ellir defnyddio'r cerbydau hyn mewn prawf ymarferol oni allwch ddarparu tystiolaeth ddogfennol i ddangos bod:
Gall tystiolaeth ddogfennol olygu:
Os yw hyn yn effeithio ar eich cerbyd ac y byddwch yn mynd ag ef i'r prawf heb ddarparu unrhyw dystiolaeth ddogfennol, caiff eich prawf ei ganslo.
Ni thelir iawndal i chi.
Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion am hysbysiadau diogelwch a galw cerbydau'n ôl ar gyfer cerbydau penodol, a'r camau y mae angen i chi eu cymryd os yw hyn yn effeithio ar eich cerbyd chi.
Ford Fiesta - siâp newydd 1995-96
Problem: nam ar bibellau'r brêc.
Ford Fiesta - 1989-90
Problem: nam ar fecanwaith y gwregysau diogelwch.
Renault Clio ll, Renault Campus
Problem: nam ar glicied y boned.
Toyota Yaris
Problem: nam ar y gorffwysydd pen a/neu ar fag aer ochr.
Vauxhall Corsa D - model newydd
Problem: Mae Vauxhall yn galw nifer o gerbydau model D y Vauxhall Corsa newydd yn ôl am resymau diogelwch.
Vauxhall Corsa, Combo, Tigra
Problem: nam ar fecanweithiau cloi gwregysau diogelwch y gyrwr a'r teithiwr blaen (cerbydau a adeiladwyd rhwng 1999 a 2000).
I gael mwy o fanylion cysylltwch â'r Asiantaeth Safonau Gyrru:
Ffôn
0300 200 1122
E-bost