Er mwyn pasio'r prawf beic modur ymarferol, mae angen i chi basio dau fodiwl ar wahân o fewn dwy flynedd i chi basio eich prawf theori beic modur. Bydd y modiwl cyntaf yn eich profi'n gwneud cyfres o symudiadau ar y beic modur mewn ardal ddiogel oddi ar y ffordd. Mae’r ail fodiwl yn ymwneud â'r prawf ar y ffordd.
Mae'n rhaid i chi ddefnyddio peiriant addas ar gyfer y prawf ymarferol sy'n bodloni'r gofynion safonol ar gyfer prawf cerbyd. Rhaid ichi ddefnyddio'r un beic modur ar gyfer y ddau fodiwl.
Bydd angen i chi wisgo'r dillad cywir ar gyfer y ddau fodiwl. Caiff arholwyr wrthod cynnal y prawf os byddant yn credu nad yw'r math o ddillad yr ydych yn eu gwisgo yn eich amddiffyn ddigon rhag anaf.
Ceir eithriad i'r gofyniad helmed ddiogelwch ar gyfer dilynwyr crefydd Sikh os ydynt yn gwisgo twrban.
Bydd angen i chi ddarparu’r dogfennau dilys canlynol:
Os ydych yn uwchraddio trwydded moped lawn a gafwyd drwy basio prawf dwy ran ers mis Rhagfyr 1990, neu os ydych yn gwneud y llwybr mynediad cyflym, cewch eich eithrio o'r CBT a'r prawf theori.
Mae modiwl un yn cynnwys y symudiadau penodol isod ac mae'n cymryd tua 20 munud i'w gwblhau fel arfer:
Ceir gofyniad cyfyngiad cyflymder o 50 cilometr yr awr (tua 32 milltir yr awr) ar gyfer yr ymarferion osgoi perygl a stop brys.
Ar gyfer modiwl dau mae'n rhaid i chi ddangos eich tystysgrif sy'n profi eich bod wedi pasio modiwl un, yn ogystal â'r dogfennau y bu'n rhaid i chi eu dangos ar gyfer y prawf modiwl un.
Modiwl dau yw'r modiwl ar y ffordd ac mae fel arfer yn para tua 40 munud. Mae'r modiwl hwn yn cynnwys prawf llygaid, cwestiynau am ddiogelwch a chydbwysedd a'r elfen gyrru ar y ffordd a fydd yn cynnwys amrywiaeth o amodau ffyrdd a thraffig.
Gofynnir i chi wneud stop arferol, cychwyn ar ongl (cychwyn o'r tu ôl i gerbyd sydd wedi parcio) a, lle bo'n bosibl, cychwyn ar allt. Bydd yr arholwr yn eich dilyn ar feic modur fel arfer, gan ddefnyddio radio i roi cyfarwyddiadau i chi.
Gallwch lwytho rhestr o'r holl gyfuniadau posibl o gwestiynau am ddiogelwch a chydbwysedd y gallai'r arholwr eu gofyn i chi.
Gallwch ddysgu mwy am y prawf beic modur ymarferol drwy wylio’r ‘fideo prawf beic modur ymarferol’, sy’n darparu arddangosiad cam wrth gam o’r ddau fodiwl o’r prawf beic modur.
Ar ddiwedd modiwl un, bydd yr arholwr yn rhoi'r canlyniad i chi a gallwch ofyn am adborth ar sut wnaethoch chi. Os gwnaethoch basio, cewch dystysgrif yn dweud eich bod wedi pasio modiwl un.
Ar ddiwedd modiwl dau, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych wedi pasio neu fethu a gallwch ofyn am adborth ar sut wnaethoch chi.
Os byddwch yn methu un o'r ddau fodiwl, dylech ofyn i'r arholwr am rywfaint o adborth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf nesaf. Bydd eich adroddiad prawf gyrru yn tynnu sylw at feysydd lle gwnaethoch unrhyw gamgymeriadau.
Os byddwch yn pasio'r ddau fodiwl, bydd yr arholwr yn egluro wrthych sut mae newid eich trwydded dros dro yn drwydded lawn.
Gallwch drefnu'r ddau fodiwl ar yr un pryd ond mae'n rhaid i chi fod wedi pasio eich prawf modiwl un cyn y cewch wneud modiwl dau.
Os byddwch yn methu modiwl un, mae'n rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith cyn eich bod yn gymwys i ailwneud eich prawf. Os na wnewch roi'r tri diwrnod gwaith y mae eu hangen ar yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn hysbysu eich bod yn canslo, byddwch yn colli eich ffi am brawf modiwl dau.
Os byddwch yn methu eich prawf modiwl dau, mae'n rhaid i chi aros 10 diwrnod gwaith cyn y gallwch ailwneud y modiwl.