Rhaid i unrhyw gerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio mewn prawf gyrru beic modur neu foped ateb y safonau sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf. Nid yw cerbydau nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer cerbyd prawf yn addas ar gyfer sefyll prawf, ac efallai y caiff eich prawf ei ganslo.
Mae'n rhaid i'r moped y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich prawf ymarferol fodloni'r canlynol:
Os yw eich beic modur yn llai na 75 maint silindr, nid yw'n dderbyniol ar gyfer y prawf beic modur ymarferol.
Os byddwch chi'n llwyddo yn eich prawf ymarferol ar gerbyd modur gyda thrawsyriant awtomatig neu led-awtomatig, fe'i cofnodir ar eich trwydded. Dim ond cerbydau modur yn y categori hwn y cewch ei gyrru dan drwydded lawn.
Ceir dau fath gwahanol o gategorïau:
Nid yw'r beic modur BMW C1 yn feic addas ar gyfer y prawf ymarferol gan y bydd trwydded categori A yn eich cyfyngu am gyfnod o ddwy flynedd i yrru beiciau a chanddynt allbwn pŵer nad yw'n fwy na 25 cilowat (33 pŵer marchnerth brecio) a chymhareb pŵer i bwysau heb fod yn fwy na 0.16 cilowat y cilogram. Ar ôl dwy flynedd, cewch yrru unrhyw feic modur.
Gall cerbydau a ddefnyddir ar gyfer y cynllun mynediad cyflym a mynediad uniongyrchol fod ag injan o faint amhenodol o 35 cilowat o leiaf (46.6 pwer marchnerth brecio), gyda chyflymder amhenodol.
Beic modur gyda cherbyd ochr
Dim ond ymgeiswyr sydd ag anableddau penodol gaiff ddefnyddio cyfuniad o gerbyd modur a cherbyd ochr ar gyfer y prawf.
Mae'r gofynion ar gyfer beic modur gyda cherbyd ochr yr un fath â'r rhai ar gyfer beic modur solo, ond:
Bydd y drwydded a gewch wrth basio'r prawf hwn yn caniatáu i chi ddefnyddio'r cyfuniad hwn o gerbyd yn unig.
Dan Reoliadau Gwneuthuriad a Defnydd 1986 (rheoliad 35) mae angen i unrhyw gerbyd modur a ddefnyddiwyd ar 1 Ebrill 1984 neu ar ôl hynny allu nodi cyflymder mewn milltiroedd yr awr a chilomedrau yr awr. Mae'n rhaid i gerbydau a ddefnyddir mewn prawf ddangos cyflymder naill ai mewn milltiroedd yr awr neu mewn cilomedrau yr awr yn unig. Nid yw cerbydau sy'n dangos cyflymder mewn cilomedrau yr awr yn unig yn dderbyniol. Ni chaniateir gorgyffwrdd ar sbidomedrau.