Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Paratoi am eich prawf gyrru - y Cofnod Gyrrwr

Mae'r rhai sy'n pasio'u prawf gyrru, ar gyfartaledd, wedi cael oddeutu 45 awr o hyfforddiant proffesiynol ynghyd â 22 awr o ymarfer preifat. Mae gyrwyr dan hyfforddiant sy'n paratoi yn y modd hwn, gyda chyfuniad o ddigon o hyfforddiant proffesiynol a digon o ymarfer, yn gwneud yn well yn eu prawf.

Er mwyn eich helpu i ddysgu mewn ffordd drefnus, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wedi cynhyrchu Cofnod Gyrrwr. Efallai y byddwch wedi derbyn Cofnod Gyrrwr gyda'ch trwydded yrru dros dro. Bydd hwn yn eich helpu i fonitro'ch cynnydd ac yn darparu cofnod parhaol o'ch llwyddiant. Fe allwch chi gael un hefyd gan eich hyfforddwr, o'ch canolfan prawf gyrru leol neu drwy ddilyn y ddolen yn yr adran isod 'Pryd i sefyll eich prawf gyrru'.

Dysgu trefnus

Mae'r Cofnod Gyrru yn bodoli i'ch helpu chi a'ch hyfforddwr gyrru i gadw cofnod o'ch cynnydd wrth eich bod yn dysgu gyrru.

Mae Cofnod y Gyrrwr yn cynnwys rhestr o'r 24 sgìl allweddol yr ymdrinnir â hwy yn y prawf gyrru ymarferol. Mae lle ynddo i'ch hyfforddwr gofnodi eich cynnydd drwy'r pum lefel a ddangosir yn y Cofnod. Dylai lefelau un i bedwar fod wedi'u llofnodi a'u dyddio gan eich hyfforddwr, a dylid ychwanegu'r manylion llawn pan fyddwch yn cyrraedd lefel pump. Drwy hyn, bydd modd i chi a'ch hyfforddwr weld ar unwaith pa sgiliau y mae angen i chi eu gwella.

Rhaid i chi ddysgu'r sgìl ac yna ymarfer i gael profiad. Mae angen i chi hefyd ddysgu gyrru'n ymarferol a'r elfen theori ar yr un pryd, yn enwedig nawr gan fod y prawf theori'n cynnwys adnabod peryglon. Taflen fechan yw'r cofnod a dylai fod gennych yn eich holl wersi gyrru.

Beth yw'r pum lefel?

Y lefelau yw:

  • cyflwyno'r sgìl
  • gellir ei gyflawni o dan hyfforddiant llawn
  • gellir ei gyflawni'n gywir wrth gael cyfarwyddyd
  • prin fod angen rhoi cyfarwyddyd
  • fe ellir ei gyflawni'n gyson heb unrhyw gyfarwyddyd

Bydd y Cofnod Gyrrwr yn eich atgoffa o'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni, sut i wneud hyn ac i ba raddau rydych chi'n llwyddo.

Ymarfer eich sgiliau gyrru

Rhan bwysig o'r broses ddysgu strwythuredig yw ymarfer yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi. Trafodwch gyda'ch hyfforddwr a'r person a fydd yn eich helpu i ymarfer yr hyn y mae angen i chi ei ymarfer.

Dylech amrywio'r hyn y byddwch yn ei wneud. Ceisiwch ymarfer:

  • ar gynifer o ffyrdd gwahanol ag y bo modd
  • mewn pob math o draffig a thywydd, hyd yn oed wedi iddi dywyllu
  • ar ffyrdd deuol lle mae'r uchafswm cyflymder cenedlaethol yn bodoli - efallai y bydd gofyn i chi yrru ar ffyrdd fel hyn yn ystod y prawf

Dylech geisio cadw cofnod o unrhyw ymarfer ar wahanol ffyrdd ac yn ystod gwahanol dywydd rhwng gwersi. Bydd hyn o gymorth i chi gofio a chyfrifo faint o ymarfer a gawsoch o dan amodau gwahanol. Dylech hefyd gofnodi unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch eich gyrru ac yna'u trafod gyda'ch hyfforddwr.

Pryd i sefyll eich prawf ymarferol

Nid ydych chi'n barod i sefyll eich prawf hyd nes y byddwch wedi cael llofnod yn y blychau lefel pump. Dim ond wedyn y gall eich hyfforddwr lofnodi'r datganiad. Erbyn hyn, dylech fod yn gallu gyrru'n ddiogel heb i'ch hyfforddwr neu'r person sy'n eich helpu i ymarfer eich cyfarwyddo.

Peidiwch ag anghofio mynd â'r Cofnod gyda chi pan fyddwch chi'n sefyll eich prawf gyrru ymarferol. Cadwch hwn fel cofnod o'ch profiad 'dysgu gyrru'.

Os hoffech chi gael copi o gofnod y gyrrwr, cliciwch ar y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU