Dod i'ch prawf ymarferol
Pan fyddwch chi'n dod i'ch prawf ymarferol, rhaid i chi ddangos dogfennau penodol a rhaid i'ch cerbyd fod wedi'i yswirio a'i drwyddedu'n briodol ar gyfer y prawf. Sicrhewch fod y dogfennau hyn gennych pan fydd yr arholwr yn galw eich enw.
Yn y ganolfan brawf
Rhaid i chi ddod â'r eitemau canlynol gyda chi. Os na wnewch chi hyn, gallai'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wrthod cynnal y prawf ac fe allech chi golli'ch ffi.
- cerbyd wedi'i yswirio a'i drwyddedu'n gywir, gyda phlatiau L/D (ar wahân i brofion tacsi a Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy (ADI) rhan 2), sy'n addas ar gyfer y prawf
- y dystysgrif pasio prawf theori briodol (neu gadarnhad) os nad ydych chi wedi'ch eithrio
- eich llythyr apwyntiad
- dwy ran eich trwydded cerdyn-llun. Os nad oes gennych chi ddwy ran eich trwydded, ni fydd eich prawf yn cael ei gynnal a byddwch chi'n colli'ch ffi
- os oes gennych chi drwydded bapur o'r hen fath, rhaid i chi ddod â'ch trwydded yrru wedi'i llofnodi a phasport dilys - o 1 Tachwedd 2005 ni dderbynnir unrhyw ffurf arall ar brawf ffotograffig
- ar gyfer prawf beic modur, cofiwch fynd â'ch tystysgrif CBT hefyd
Os byddwch chi'n colli'ch trwydded, rhaid i chi wneud cais am un arall i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), a gallai hynny gymryd hyd at 15 diwrnod. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi aildrefnu'ch prawf.