Dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) pan fyddwch chi'n trefnu prawf ymarferol os oes gennych chi unrhyw broblemau clywed, anawsterau ieithyddol, problemau symud neu addasiadau i'ch cerbyd.
Mae'r DSA yn ymrwymedig i sicrhau cyfle cyfartal i bawb ac yn darparu nifer o gyfleusterau i ymgeiswyr gydag anghenion arbennig neu anableddau corfforol.
Nid oes gwahaniaeth pa mor ddifrifol yw'ch anabledd, bydd rhaid i chi sefyll yr un prawf gyrru â phob ymgeisydd arall. Fodd bynnag, caniateir mwy o amser i chi yn ystod y prawf. Mae hyn er mwyn i'r arholwr allu siarad â chi am eich anabledd ac am unrhyw addasiadau i'ch cerbyd.
Gellir cael gwybodaeth am addasiadau i'r cerbyd ar gyfer modurwyr anabl a phobl hwn gan y Gwasanaeth Cyngor am Fudoledd a Gwybodaeth am Gerbydau (MAVIS).
Cewch ddod â'ch cyfieithydd/dehonglydd eich hun i'ch prawf ymarferol ar yr amod:
Chi fydd yn gyfrifol am drefnu'r cyfieithydd/dehonglydd ac am unrhyw ffioedd sydd i'w talu.