Mae'r prawf gyrru beic modur ymarferol yn cynnwys sawl elfen wahanol: prawf golwg, cwestiynau am ddiogelwch cerbydau, prawf o allu gyrru, prawf ymarferion penodol a chwestiwn ynghylch gyrru gyda theithiwr.
Yn y ganolfan brawf, rhaid i chi ddangos tystysgrif DL196 ddilys oni bai fod y prawf yn cael ei gynnal ar un o'r ynysoedd sydd wedi'u heithrio. Mae gyrwyr sy'n uwchraddio trwydded moped lawn a gafwyd drwy basio prawf dwy ran ers mis Rhagfyr 1990 hefyd wedi'u heithrio.
Cyn i chi ddechrau eich prawf gyrru beic modur ymarferol, bydd gofyn i chi ddarllen plât rhif i brofi bod eich golwg yn cwrdd â'r gofynion angenrheidiol. Bydd gofyn i chi hefyd ateb dau gwestiwn am ddiogelwch peiriannau cyn cychwyn.
I weld rhestr o'r holl gyfuniadau posibl o'r cwestiynau y gall yr arholwr eu gofyn, cliciwch ar y ddolen isod 'Llwytho cwestiynau diogelwch beiciau modur'.
Ar ôl y camau rhagarweiniol cyn y prawf (e.e. archwilio'r drwydded a phwy ydych chi), bydd yr arholwr wedyn yn helpu'r ymgeisydd i osod radio a seinydd clust.
Wrth dywys yr ymgeisydd at y peiriant, bydd yr arholwr yn egluro sut y cynhelir y prawf a sut mae'r offer radio yn gweithio.
Mae'r gyfraith yn gofyn bod unrhyw un sy'n gyrru beic modur, sgwter neu foped, gyda neu heb gerbyd ochr, yn gwisgo helmed i'w hamddiffyn a honno wedi'i chlymu'n ddiogel. Ni ellir cynnal y prawf felly oni bai fod yr ymgeisydd yn gwisgo helmed gywir wedi'i chlymu'n ddiogel.
Sylwch:
Ceir eithriad i'r drefn hon ar gyfer dilynwyr crefydd Sikh os ydynt yn gwisgo twrban.
Yn ystod y prawf, bydd rhaid cwblhau symudiadau penodol sy'n cynnwys:
Mae'n rhaid stopio'n sydyn yn ystod pob prawf beic modur a gall hyn ddigwydd unrhyw bryd yn ystod y prawf. Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod pa ffordd y dylid mynd a bydd yr arholwr yn dangos sut fath o signal a roddir.
Gofynnir i'r ymgeisydd roi'r peiriant ar ochr y ffordd a'i osod ar ei stand, yna ei dynnu oddi ar y stand a'i wthio ar draws y ffordd mewn tro 'U'. (Ceir defnyddio stand canol neu stand ochr, ond nid yw peiriant heb stand yn addas ar gyfer y prawf).
Dros y radio, bydd yr arholwr yn gofyn i'r ymgeisydd yrru'r beic yn ôl dros y ffordd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd symud o safle parcio a throi'r beic i wynebu i'r cyfeiriad arall, o fewn lled y ffordd.
Os nad yw'r ymgeisydd wedi cael cyfle i ddangos ei allu i reoli'r beic ar gyflymder araf, e.e. mewn cyffordd, gofynnir iddynt yrru fel petaent mewn traffig araf.
Ar ôl y prawf ymarferol, gofynnir cwestiwn i'r ymgeisydd ynghylch 'cadw cydbwysedd wrth gludo teithiwr'.
Pan fydd y prawf gyrru ar ben, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych chi wedi llwyddo neu wedi methu. Gallwch ofyn am adborth gan yr arholwr, ac wedyn bydd yn dweud wrthych sut y gwnaethoch chi yn ystod y prawf.
Os byddwch yn pasio a bod gennych drwydded yrru cerdyn-llun a gyhoeddwyd ar ôl 1 Mawrth 2004, bydd yr arholwr yn gofyn i chi a ydych am gael eich trwydded yrru lawn yn awtomatig. Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd yr arholwr yn cymryd eich hen drwydded oddi arnoch, yn sganio'r manylion ac yn eu hanfon ar fformat electronig i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Yna, fe gewch dystysgrif lwyddo sy'n profi eich bod wedi pasio'r prawf. Bydd DVLA yn anfon eich trwydded lawn newydd atoch drwy'r post o fewn tair wythnos ar ôl i chi basio'ch prawf ymarferol.
Os byddwch yn pasio'r prawf ond nad ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth awtomatig hwn, neu fod gennych drwydded a gyhoeddwyd cyn 1 Mawrth 2004, fe gewch chi dystysgrif lwyddo gan yr arholwr. Ar gefn y dystysgrif lwyddo, fe welwch beth fydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd hynny'n cynnwys anfon eich trwydded a'r ffi briodol i DVLA a fydd wedyn yn gwirio'ch cais ac yn anfon trwydded lawn newydd atoch.
Unwaith i chi basio'ch prawf gyrru beic modur sylfaenol, dim ond peiriannau 25 kW (33bhp) y cewch chi eu gyrru a'r rheiny â chymhareb pwer/pwysau o 0.16kW/kg, am ddwy flynedd
Os byddwch yn methu'r prawf dylech ofyn i'r arholwr am rywfaint o adborth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf nesaf. Bydd y ffurflen adroddiad gyrru hefyd yn dangos i chi pa gamgymeriadau wnaethoch chi.
Rhaid i chi ddisgwyl 10 diwrnod clir ar ôl eich prawf ymarferol cyn i chi drefnu un arall.
Rhaid i unrhyw gerbyd a ddefnyddir mewn prawf gyrru ateb y safonau sylfaenol ar gyfer cerbyd prawf. Mae'r safonau hyn yn rhan o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ar drwyddedu gyrwyr. Mae'n rhaid i Wledydd Prydain, fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gydymffurfio â'r gofynion hyn. Dyma'r gofynion sylfaenol ar gyfer mopedau a beiciau modur a ddefnyddir fel cerbydau prawf.
Rhaid i injan moped fod yn llai na 50 cc, a chyflymder o ddim mwy na 50 cilomedr yr awr (cya) sef tua 31 milltir yr awr (mya). Os cafodd ei ddefnyddio gyntaf cyn 1 Awst 1977, rhaid iddo fod â phedalau i'w yrru.
Os yw eich beic modur yn llai na 75 cc, nid yw'n dderbyniol ar gyfer y prawf beic modur ymarferol. Os byddwch chi'n llwyddo yn eich prawf ymarferol ar gerbyd modur gyda thrawsyriant awtomatig neu led-awtomatig, fe'i cofnodir ar eich trwydded. Dim ond cerbydau modur yn y categori hwn y cewch ei gyrru dan drwydded lawn.
Diffinnir beic modur ysgafn (categori A1) fel beic modur solo rhwng 75 ac 125 cc, gydag allbwn pwer nad yw'n fwy na 11 cilowat (kW) (pwer marchnerth brecio (bhp) 14.6 ar y mwyaf). Gweler nodyn 1.
Diffinnir beic modur ysgafn (categori A) fel beic modur solo rhwng 121 ac 125 cc, sy'n gallu mynd yn gynt na 100 cya (62.5 mya). Nid yw'r beic modur BMW C1 yn injan addas ar gyfer prawf ymarferol. Gweler nodyn 2.
Gall cerbydau a ddefnyddir ar gyfer y cynllun mynediad cyflym a mynediad uniongyrchol fod ag injan o faint penodol o 35 W o leiaf (46.6 bhp), gyda chyflymder amhenodol. Gweler nodyn 3.
Mae lleiafswm y gofynion ar gyfer beic modur a cherbyd ochr a ddefnyddir ar gyfer prawf yr un fath ag ar gyfer y peiriannau solo, ond ni chaiff categorïau A ac A1 fod yn fwy na chymareb pwer/pwysau o 0.16kW/kg. Ni chaiff teithwyr deithio yn y cerbyd ochr yn ystod y prawf. Dim ond ymgeiswyr sydd ag anableddau penodol gaiff ddefnyddio cyfuniad o gerbyd modur a cherbyd ochr ar gyfer y prawf. Dim ond cerbyd o'r un cyfuniad y ceir ei yrru dan drwydded a geir wrth sefyll y prawf hwn.
Nodiadau: