Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynghylch hyfforddiant sylfaenol gorfodol

Cyflwynwyd yr Hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) yn 1990 er mwyn helpu i ollwng y gyfradd damweiniau uchel ymysg gyrwyr beiciau modur dibrofiadRhaid cwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn y caiff gyrrwr moped neu feic modur dan hyfforddiant yrru ei hun ar y ffordd gyda phlatiau L neu blatiau D yng Nghymru.

Pryd i gwblhau CBT

Bydd angen i chi gwblhau CBT:

  • os ydych chi eisiau gyrru moped (mae gan moped maint injan sydd ddim mwy na 50 cc gyda chyflymder o ddim mwy na 50 cilomedr yr awr sef tua 31 milltir yr awr)
  • os ydych chi eisiau gyrru beic modur

Os cawsoch chi eich trwydded car cyn 1 Chwefror 2001 does dim rhaid i chi gwblhau CBT cyn gyrru moped.

Beth mae CBT yn ei gynnwys?

Mae pum elfen i'r cwrs CBT:

A. cyflwyniad
B. hyfforddiant ymarferol ar safle
C. gyrru ymarferol ar safle
D. hyfforddiant ymarferol ar y ffordd
E. gyrru ymarferol ar y ffordd

Rhaid cwblhau'r bum elfen yn eu trefn, er y gellir amrywio trefn yr ymarferion o fewn pob elfen. Dim ond pan fydd eich hyfforddwr yn fodlon eich bod wedi dysgu'r theori ac wedi dangos y sgiliau ymarferol hyd at lefel ddiogel sylfaenol y byddwch yn symud ymlaen i'r elfen nesaf. Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i yrwyr dan hyfforddiant yrru am o leiaf dwy awr ar y ffordd yn Elfen E.

Tystysgrif gwblhau (DL 196)

Pan fydd y pum elfen wedi'u cwblhau yn llwyddiannus, bydd tystysgrif gwblhau, sef DL196, yn cael ei rhoi. Dogfen gyfreithiol yw hon sy'n dilysu'r hawliau perthnasol ar eich trwydded yrru.

Mae'n bwysig fod person sydd â DL196 yn ystyried y pwyntiau canlynol:

  • mae tystysgrif DL196 sy'n dilysu hawl dros dro i yrru moped neu feic modur yn para am ddwy flynedd - bydd yn rhaid ailwneud CBT os na chaiff y prawf theori a'r prawf ymarferol eu pasio o fewn oes dwy flynedd y dystysgrif
  • ar gyfer hawl i yrru moped yn unig, os byddwch chi'n pasio'ch prawf gyrru car tra bo'ch DL196 o hyd yn ddilys neu'n cwblhau cwrs CBT ac yn cael DL196 ar ôl pasio'ch prawf car, ni fydd y dystysgrif yn dod i ben, ac felly bydd angen i chi gadw'ch tystysgrif DL196 yn ddiogel. Sylwch os gwelwch yn dda mai dim ond ar gyfer mopedau y mae hyn, ac ar gyfer gyrru beiciau modur fel gyrrwr dan hyfforddiant, dim ond am ddwy flynedd y bydd y DL196 yn ddilys.

Unwaith i chi gael eich tystysgrif, fe'ch cynghorir i gael hyfforddiant ychwanegol i basio'ch profion theori ac ymarferol a bod yn gymwys i gael trwydded moped neu feic modur. Rhaid i chi fynd â'ch tystysgrif DL196 gyda chi pan fyddwch chi'n sefyll eich prawf ymarferol.

Ble a faint yw'r gost?

Dim ond hyfforddwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) sy'n cael dysgu cwrs CBT mewn corff hyfforddi cymeradwy (ATB). Rhaid i bob ATB gael hyfforddwyr sydd wedi cwblhau asesiad deuddydd yn llwyddiannus a chael safloedd sydd wedi'u cymeradwyo gan y DSA ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd.

Bydd cost y cwrs yn amrywio o tua £100 a mwy, a gall ble mae’r hyfforddiant yn cymryd lle, ac a yw gyrrwr yn dod â’i beic modur ei hun ai peidio, gael effaith arno. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau yn cynnig benthyg peiriannau a helmedi ar gyfer y cwrs. Gellir cynnwys cost y CBT o fewn cost cwrs hyfforddiant llawn sy'n arwain at brawf beic modur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU